Gyrrwr wedi marw mewn gwrthdrawiad ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Rhan o'r B5109 rhwng LlangoedFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y B5109 rhwng Llangoed a Biwmares

Mae dyn lleol 40 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yn Ynys Môn.

Cafodd y gwasanaethau brys alwad am 16:20 brynhawn Sadwrn yn dilyn y gwrthdrawiad, oedd yn cynnwys car Mitsubishi du, ar y B5109 rhwng Llangoed a Biwmares

Dywed Heddlu Gogledd Cymru bod gyrrwr y car wedi marw yn y fan a'r lle, "er gwaethaf ymdrechion plismon nad oedd ar ddyletswydd a nyrs adran ddamweiniau a brys o Ogledd Iwerddon a oedd yn safle'r gwrthdrawiad o fewn munudau".

Mae'r llu'n apelio am wybodaeth a lluniau dashcam gan unrhyw un oedd yn teithio rhwng Llangoed a Biwmares ar y pryd

Fe wnaeth y ffordd ailagor am 21:10 nos Sadwrn.

Pynciau cysylltiedig