Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Dreigiau 23-27 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Capten y Gweilch, Rhys Webb yn llongyfarch Michael Collins wedi iddo sgorio caisFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Capten y Gweilch, Rhys Webb yn llongyfarch Michael Collins wedi iddo sgorio cais

Er iddyn nhw gael dechrau arbennig yng ngêm ddarbi fawr gyntaf y tymor rygbi newydd, cafodd y Dreigiau eu curo 23-27 gan y Gweilch yn Rodney Parade yng ngêm gyntaf y ddau dîm yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Sgoriodd yr ymwelwyr dri chais - dau yn yr ail hanner - i droi'r fantol ar ôl bod 10-6 i lawr ar yr egwyl, ac fe sgoriodd Gareth Anscombe 12 o bwyntiau yn ei gêm gystadleuol gyntaf ers ymuno â nhw o Gaerdydd yn 2019.

Josh Davies sgoriodd cais cyntaf y prynhawn, ac fe ychwanegodd Sam Davies bwyntiau gyda'r trosgais - a chic gosb wedi hynny - i roi'r Dreigiau 10-0 ar y blaen.

Daeth pwyntiau cyntaf y Gweilch wedi cais gan Michael Collins a 'r cyntaf o dri throsgais gan Anscombe i gau'r bwlch i 10-7.

Estynodd y Dreigiau'r bwlch eto wedi cic gosb a gôl adlam lwyddiannus Sam Davies, cyn i gic gosb Anscombe o dan y pyst wneud hi'n 16-10 wedi'r hanner cyntaf.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Y Dreigiau'n dathlu eu cais cyntaf yn erbyn y Gweilch

Yn fuan wedi i'r gêm ailddechrau, roedd hi'n 16-13 wedi cig gosb arall gan Anscombe cyn i Michael Collins dirio am yr eildro, gan sicrhau mai'r Gweilch oedd ar y blaen - 16-20 wedi'r trosgais.

Luke Morgan sgoriodd trydydd cais yr ymwelwyr, cyn i bwyntiau'r trosgais estyn eu mantais i 16-27.

Roedd yna lygedyn o obaith i'r Dreigiau pan sgoriodd Luke Morgan gais o dan y pyst, gan sicrhau pwynt bonws.

Trosodd Sam Davies i leihau'r bwlch o llwyddodd y Gweilch i wrthsefyll ymdrechion olaf y Dreigiau i selio'r fuddugoliaeth.