Andy Fowell: Teyrnged i seiclwr fu farw ger Pen-y-Pass

  • Cyhoeddwyd
Andy FowellFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Andy Fowell yn 66 oed ac yn byw yn Llangoed ar Ynys Môn

Mae teulu seiclwr fu farw ar ôl cael ei daro gan fws wedi talu teyrnged iddo.

Cafodd Andy Fowell, 66, ei ladd yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A4086 rhwng Pen-y-pas a Nant Peris fore Sadwrn.

Dywedodd ei deulu fod Mr Fowell wedi symud i Ynys Môn yn 1997 i fod yn Ymgynghorydd Gofal Lliniarol yn Ysbyty Gwynedd.

Fe sefydlodd y Gwasanaeth Gofal Lliniarol ar gyfer Gogledd Cymru, ond roedd bellach wedi ymddeol.

"Yn briod am 43 mlynedd ag Anne, mae ganddyn nhw ddau o blant, Rachel a Richard," meddai'r deyrnged.

"Roedd yn dad balch i'r ddau ac yn dotio ar ei ŵyr ac wyres, Fraser a Tilly."

'Difyrru pawb'

Ychwanegodd: "Roedd Andy yn seiclwr angerddol, a dim ond dwy flynedd a hanner yn ôl gyda'i ddau ffrind, Steve a Rodger, fe feiciodd o Istanbul i Ynys Môn, gan godi £25,000 i Hosbis Dewi Sant a Chymdeithas Clefyd Motor Niwron.

"Roedd ei ddiddordebau yn cynnwys dringo creigiau, paragleidio, ac yn fwy diweddar rhwyfo, rhedeg, golff, hwylio, celf, cerddoriaeth ac roedd yn ddarllenydd brwd.

"Bydd colled fawr ar ôl Andy, ei synnwyr digrifwch sych a'i ffraethineb yn difyrru pawb.

"Hoffai'r teulu ddiolch i bawb ar leoliad y ddamwain am eu holl gymorth a'r holl wasanaethau brys."

Mae swyddogion yn parhau i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd toc wedi 11:30 ddydd Sadwrn.

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n apelio am wybodaeth a lluniau dashcam, ac mae swyddogion arbenigol yn rhoi cefnogaeth i deulu Mr Fowell.

Pynciau cysylltiedig