Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-4 West Bromwich Albion

  • Cyhoeddwyd
Y gôl agoriadol gan Karlan GrantFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd ymosodwr West Brom, Karlan Grant, (crys melyn) gôl gynta'r gêm wedi cwta bum munud

Collodd Caerdydd eu pedwaredd gêm yn olynol wrth i West Bromwich Albion ddringo i frig y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth gyfforddus yn y brifddinas.

Rhoddodd Karlan Grant yr ymwelwyr ar y blaen wedi dim ond pum munud, gydag ergyd bwerus o ymyl y cwrt cosbi.

Er i'r Adar Gleision ymdrechu'n galed, roedd West Brom yn rheoli'n llwyr o'r dechrau, yn wir, chafodd y tîm cartref ddim un ergyd ar y targed drwy'r holl gêm.

Roedd Caerdydd wedi colli pedair allan o'u pum gêm ddiwethaf yn y gynghrair ddiwethaf - un yn fwy nag a gollwyd yn y 26 gêm flaenorol - ac mewn ymgais i arafu'r rhediad siomedig, roedd eu rheolwr, Mick McCarthy, wedi dewis pump amddiffynwr canol.

Wnaeth hynny ddim gwahaniaeth yn y pen draw. Mae'n amheus a fyddai 10 amddiffynnwr wedi newid y canlyniad.

Noson ddiflas iawn

Ond gan mai 1-0 oedd hi ar yr hanner, roedd 'na wastad lygedyn o obaith, er i gefnogwyr Caerdydd eu bwio oddi ar y cae.

Diflannodd y llygedyn hwnnw wedi 56 munud, pan rwydodd Curtis Nelson i'w gôl ei hun, i'w gwneud hi'n 2-0 i WBA.

Sgoriodd Alex Mowatt eu trydedd, a honno'n gôl wych, gyda chwarter awr i fynd, ac i goroni noson ddiflas iawn seliodd Matt Phillips y fuddugoliaeth gyda'r bedwaredd.

Cyn y gêm roedd West Brom yn yr ail safle ar 19 o bwyntiau a Chaerdydd yn 13eg gyda 11 pwynt. Ond ar ôl y gweir ddiweddaraf, mae WBA ar y brig a'r Adar Gleision yn yr 16eg safle.