Cannoedd yn angladd prifathrawes groenddu cyntaf Cymru
- Cyhoeddwyd
Cafodd angladd prifathrawes groenddu cyntaf Cymru, Betty Campbell, ei gynnal yng Nghaerdydd ddydd Iau.
Fe orymdeithiodd cannoedd y tu ôl i'r arch wrth iddyn nhw gerdded i'r angladd yn eglwys y Wyryf Santes Fair yn Nhre-biwt, a hynny i sain band jazz yn canu When The Saints go Marching In.
Cafodd gwasanaeth byr ei gynnal ym Mynwent y Gorllewin yn Nhrelái yn dilyn hynny.
Disgrifiodd un o'r galarwyr Ms Campbell fel "santes".
Bu farw Betty Campbell 82 oed yn ei chartref yn Nhre-biwt ar 14 Hydref, ar ôl bod yn sâl am rai misoedd.
Cafodd Rachel Elizabeth Campbell ei geni yng Nghaerdydd i dad o Jamaica a mam Gymreig o Farbados.
Rhwng 1960 ac 1999 bu'n gweithio fel athrawes a phrifathrawes yn ardaloedd amlethnig y ddinas, yn gyntaf yn Llanrhymni ac yna yn Ysgol Gynradd Mount Stuart.
Roedd hi hefyd yn aelod o'r pwyllgor paratoi ar gyfer agor y Cynulliad Cenedlaethol yn 1998.
Cafodd Ms Campbell, oedd hefyd yn gyn-gynghorydd yn ward Tre-biwt, anrhydedd yr MBE am ei gwasanaeth i'w chymuned ac i addysg.
Dywedodd iddi gael ei hysbrydoli i fod yn brifathrawes pan ddywedodd wrth un o'i hathrawon yn yr ysgol am ei huchelgais, dim ond iddi hi ddweud y "byddai'r problemau'n anorchfygol".
Mewn teyrnged, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones, bod Ms Campbell yn "arloeswr go iawn ac yn ysbrydoliaeth" wnaeth "chwalu'r rhwystrau er mwyn i eraill allu dilyn yn olion ei thraed".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2017