Plaid Cymru'n gohirio eu cynhadledd hydref yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru wedi gohirio eu cynhadledd hydref yn Aberystwyth, gan ddweud mai "diogelwch" oedd bwysicaf yn sgil y gyfradd uchel o achosion Covid.
Dywedodd cadeirydd y blaid, Alun Ffred Jones y byddai'r blaid fodd bynnag yn trafod y posibiliad o gynnal cynhadledd rithwir "yn y dyfodol agos".
Daw hynny wedi i Lafur Cymru gyhoeddi penderfyniad tebyg am eu cynhadledd nhw, wrth iddyn nhw ragweld y bydd Covid a phwysau ar y GIG yn cynyddu dros yr wythnosau nesaf.
Dydy'r un o'r ddwy blaid wedi cynnal cynhadledd wyneb yn wyneb ers dechrau'r pandemig, gan orfod dibynnu - fel llawer o fudiadau eraill - ar ddigwyddiadau ar-lein.
'Cadw pawb yn ddiogel'
Roedd cynhadledd Plaid Cymru i fod i gael ei chynnal yn Aberystwyth ar 15-16 Hydref, ond mae pwyllgor gwaith y blaid wedi penderfynu bellach na fyddai hynny'n ddoeth.
"Gwn y bydd aelodau yn rhannu ein siom na fyddwn yn cyfarfod wyneb i wyneb i drafod syniadau ac adeiladu tuag at yr etholiadau lleol y flwyddyn nesaf," meddai Alun Ffred Jones.
"Mae Plaid Cymru bob amser yn rhoi diogelwch ein haelodau, rhanddeiliaid a'n cymunedau yn gyntaf.
"Mae nifer yr achosion Covid yn parhau i fod yn uchel a'r amcangyfrif diweddaraf yw y bydd pwysau ar ein hysbytai ar ei uchaf tua dyddiad y gynhadledd.
"Mae'n hanfodol ein bod ni'n chwarae ein rhan i gadw pawb yn ddiogel."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2021
- Cyhoeddwyd24 Medi 2021
- Cyhoeddwyd19 Medi 2021