Cyngor Caerdydd: Cytundeb etholiadol Plaid Cymru a'r Blaid Werdd

  • Cyhoeddwyd
Plaid Cymru a'r Gwyrddion
Disgrifiad o’r llun,

Mae Plaid Cymru a'r Gwyrddion wedi cytuno i ymladd fel plaid sengl yn etholiadau nesaf cyngor Caerdydd

Mae Plaid Cymru a'r Gwyrddion wedi taro bargen i weithio fel un blaid unedig yng Nghaerdydd.

Bydd y ddwy blaid yn cynnig ymgeiswyr ar y cyd ar gyfer etholiadau cyngor y flwyddyn nesaf.

Maen nhw'n addo maniffesto sengl yn cynnig amddiffyn a gwella mannau gwyrdd cyhoeddus, darparu tai mewn ffordd decach, a rhoi "pŵer democrataidd go iawn i gymunedau".

Nid oes gan y naill na'r llall unrhyw gynghorwyr ar yr awdurdod ar hyn o bryd.

Mae'r cytundeb wedi'i gyfyngu i Gyngor Caerdydd - dywedwyd wrth BBC Cymru nad oedd Plaid Cymru yn ystyried cytundebau gyda'r Gwyrddion yn unrhyw le arall yng Nghymru.

Enillodd Plaid Cymru dair sedd yn 2017 ac isetholiad yn 2019 - cafodd cyn-arweinydd y grŵp Neil McEvoy ei ddiarddel o'r blaid, tra bod y lleill wedi rhoi'r gorau iddi ers hynny.

Mae tri chynghorydd Tyllgoed, gan gynnwys Mr McEvoy, yn aelodau o Propel, tra bod y pedwerydd yn annibynnol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Anthony Slaughter y bydd y gynghrair yn rhoi "cyfle i bleidleiswyr bleidleisio dros newid go iawn"

Dywedodd Anthony Slaughter, arweinydd Plaid Werdd Cymru, y bydd y gynghrair "yn rhoi cyfle i bleidleiswyr Caerdydd bleidleisio dros newid go iawn a chynrychiolaeth gymunedol wirioneddol".

Dywedodd Rhys ab Owen, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, fod y gynghrair yn cydnabod "yr angen am rym gwleidyddol newydd a fydd yn amddiffyn ac yn meithrin popeth sy'n dda am Gaerdydd".

Mae'r gynghrair yn "cwmpasu" pobl annibynnol ar lawr gwlad o'r tu allan i Blaid Cymru a'r Gwyrddion, medden nhw, "sy'n rhannu tir cyffredin gyda'r pleidiau ar faterion ymgyrchu hanfodol yn y ddinas".

Bydd trafodaethau yn cael eu cynnal gyda'r Comisiwn Etholiadol ynghylch cofrestru disgrifiad ar y cyd i ymgeiswyr ei ddefnyddio.

Mae cynghreiriau rhwng Plaid Cymru a'r Gwyrddion wedi cael eu trafod yn aml yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Gwnaeth y pleidiau fargen gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiad cyffredinol 2019, lle mai dim ond un o bob plaid a safodd mewn naw etholaeth yng Nghymru.

Ail-etholwyd pedwar Aelod Seneddol Plaid Cymru ond ni lwyddodd yr un o'r cyfranogwyr eraill yn y cytundeb.

Bydd etholiadau cyngor Cymru yn cael eu cynnal ar 5 Mai 2022.