3 Llun: Lluniau pwysicaf Marged Gwenllian

  • Cyhoeddwyd
Marged GwenllianFfynhonnell y llun, Dafydd Hughes

Marged Gwenllian, chwaraewr gitâr fas gyda Y Cledrau, Glain Rhys a'r band a Ciwb, sy'n dewis y tri llun sy'n agos at ei chalon.

Ffynhonnell y llun, Marged Gwenllian
Disgrifiad o’r llun,

Criw Llan yn fach

Dwi 'di bod wrth fy modd gyda'r llun yma ers erioed. Dwi'm hyd'noed yn siŵr be' oedd yr achlysur, ond mae 'ne blant saith teulu o Lanuwchllyn yma, yn cael andros o barti yng ngardd drws nesa'.

Mae'n rhaid bod pwy bynnag a dynnodd y llun wedi deud andros o jôc dda fel bod y plant mawr i gyd yn chwerthin go iawn, ond dim cweit digon doniol i Elin a finne chwerthin, yn amlwg. Dwi methu deall sut allwn i fod mor flin tra'n gwisgo jympyr Lion King.

Ond be' sy'n arbennig am y llun yma ydy, er ei fod wedi'i dynnu 23 o flynyddoedd yn ôl, bod y rhan fwyaf o'r criw wedi dod yn ôl i fyw i Lanuwchllyn ar ôl cyfnod yn y brifysgol/gweithio i ffwrdd, a'n bod ni'n griw agos hyd heddiw. Bydd rhaid trio ail-greu'r llun rhyw ben...

Ffynhonnell y llun, Marged Gwenllian
Disgrifiad o’r llun,

Y ddau daid - Gron a Rich

Tynnwyd y llun yma ar y 16 Mawrth 2020, pan oedd y ddau daid yn 84 ar y pryd. Dau daid gwirion, a styfnig. Dydy henaint erioed wedi bod yn rhwystr iddyn nhw gael gwneud beth sydd ei angen o gwmpas y tŷ/ffarm.

A hyd yn oed os oedd eu cyrff yn gwegian, roedden nhw'n meddwl am ryw ddyfais er mwyn lleihau'r baich, er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau.

Dwi'm yn meddwl 'mod i'n rhy bell o'r gwir wrth ddeud eu bod nhw wedi treulio o leia' traean eu hoes ar ben ysgol.

Mi gollon ni Taid C'nythog (Gron Bach, ar y chwith) yn sydyn ddechrau Medi 2021, ac mae hwn yn un ymhlith y miloedd o luniau ohono fo'n gweithio gyda gwên, yn ei gap stabl, a dwi'n trysori pob un.

Ffynhonnell y llun, Marged Gwenllian
Disgrifiad o’r llun,

Parti 'Dolig Y Cledrau

Ar drên rhywle rhwng Llandudno a Bangor gafodd y llun yma ei dynnu, fis Rhagfyr 2019. Roedden ni fel Y Cledrau wedi mynd am all-dayer i Gonwy i ddathlu penblwydd Alun, a'i alw'n barti Nadolig y band 'run pryd, cyn dal y trên yn ôl i'r Glôb ym Mangor Ucha'.

Mi wnaethon ni gychwyn y band nôl yn 2012, pan oedden ni'n ifanc iawn, a 'de ni'n dal i fynd!

'De ni'n lwcus ein bod ni'n ffrindiau neu mi fyse ni wedi hen ffraeo a rhoi'r gorau iddi, ac mae'r hwyl 'de ni'n gael i'w weld yn y llun yma. Unai hynny, neu bod Jo yn ticlo Ifan wrth i'r llun gael ei dynnu, fel mae o'n ei wneud yn aml, i wneud iddo chwerthin. Dwi'm yn siŵr iawn, ond mae o'n llun da yr un fath.