Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-1 Reading

  • Cyhoeddwyd
Junior HoilettFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Junior Hoilett (chwith) sgoriodd unig gol y gêm

Collodd Caerdydd eu pumed gêm yn olynol yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn, gyda'r pwysau'n cynyddu ar reolwr y tîm cartref Mick McCarthy.

Sgoriodd Junior Hoilett - sydd wedi chwarae 184 gêm i Gaerdydd - unig gôl y gêm i Reading.

Er i Gaerdydd wthio nôl gyda Ryan Giles yn dod yn agos at sgorio dwywaith, ac Aidan Flint yn methu cyfle gorau'r gêm, ni lwyddon nhw i fanteisio ar y cyfleoedd y cawson nhw.

Ddydd Mercher gwawdiodd y dorf McCarthy a'r tîm ar ôl iddyn nhw golli yn erbyn West Bromwich Albion 0-4.

Er i'r dorf sefyll ar eu traed yn cymeradwyo'r chwaraewyr y tro hyn, mae'r golled yn golygu bod Caerdydd yn syrthio i 20fed safle yn y bencampwriaeth, ac ond tri phwynt bellach sydd rhyngddyn nhw a'r tri safle isaf.