Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Dreigiau 6-7 Leinster

  • Cyhoeddwyd
Dreigiau v LeinsterFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Colli oedd hanes y Dreigiau yn erbyn Leinster brynhawn Sul yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig, er gwaethaf ymdrech arwrol yn Rodney Parade.

Er i'r tîm cartref ddod dan digon o bwysau yn yr hanner cyntaf, fe wnaethon nhw'n dda i gyfyngu'r ymwelwyr o Iwerddon i un sgôr.

Daeth unig gais yr hanner i Max Deegan, gyda Ross Byrne yn trosi, ond er i Lewis Jones a Josh Lewis weld cardiau melyn i'r Dreigiau wnaethon nhw ddim ildio rhagor o bwyntiau.

Bu'n rhaid i'r Dreigiau wrthsefyll rhagor o bwysau gan Leinster ar ôl yr egwyl, ond gyda 63 munud ar y cloc daeth eu pwyntiau cyntaf o droed Sam Davies.

Funudau'n ddiweddarach roedd y bwlch i lawr i bwynt, wrth i Davies lwyddo gyda chic gosb arall.

Ond wnaethon nhw ddim llwyddo i sicrhau'r sgôr ychwanegol fyddai wedi ennill y gêm - gan olygu dwy golled mewn dwy gêm i'r Dreigiau yn y gystadleuaeth hyd yma, wedi iddyn nhw gael eu trechu o 23-27 gan y Gweilch ar y penwythnos agoriadol.

Pynciau cysylltiedig