Person yn yr ysbyty wedi ymosodiad difrifol yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Station Road, LlanelliFfynhonnell y llun, Google

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosodiad difrifol yn dilyn digwyddiad yn Llanelli nos Sadwrn.

Daw hynny wedi i berson orfod cael eu cludo i'r ysbyty ag anafiadau difrifol yn dilyn yr ymosodiad tu allan siop One Stop ar Station Road am tua 19:10.

Mae'r dyn 20 oed gafodd ei arestio yn parhau i gael ei gadw yn y ddalfa.

Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad, ac wedi gofyn i unrhyw un â gwybodaeth berthnasol i gysylltu â nhw.