Y bencampwriaeth yn dal o fewn gafael Elfyn Evans

  • Cyhoeddwyd
Elfyn Evans yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae gobeithion Elfyn Evans o ennill Pencampwriaeth Rali'r Byd yn parhau'n fathemategol bosib wedi iddo ddod i'r brig yn Rali'r Ffindir - y Cymro cyntaf i'w hennill.

Enillodd y gyrrwr o Ddinas Mawddwy, ger Dolgellau naw o 19 cymal y rali sy'n cael ei hystyried ymhlith y mwyaf heriol a phoblogaidd y calendr blynyddol, gan sicrhau pum pwynt bonws trwy ennill y cymal olaf.

Llwyddodd felly i gau'r bwlch rhyngddo a'i gyd-yrrwr Toyota, Sebastien Ogier o 44 i 24 o bwyntiau, wedi i'r Ffrancwr orffen yn bumed.

Mae Ogier yn parhau ar y brig ac Evans yn ail, ond mae uchafswm o 60 o bwyntiau yn bosib trwy ennill y ddwy rali sy'n weddill yn y bencampwriaeth.

Bydd Rali Sbaen yn dechrau ar 14 Hydref a bydd Rali'r Eidal yn Monza ym mis Tachwedd.

Dywedodd Evans, a ddaeth i'r brig eleni yn Rali Portiwgal hefyd, fod y canlyniad un un da ar ôl perfformiad siomedig yn y ras ddiwethaf yn Estonia.

Ond mynnodd mai'r nod o'r dechrau "oedd gwneud ein gorau ymhob rali sydd ar ôl - rhaid canolbwyntio ar wneud ein gorau yn Sbaen a phoeni am bopeth arall wedyn".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Elfyn Evans a'i gyd-yrrwr Scott Martin yn ystod cymal arbennig 13 Rali'r Ffindir yn Arvaja

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru, dywedodd un o gyflwynwyr rhaglen Ralïo ar S4C, Hana Medi bod y fuddugoliaeth ddydd Sul "yn eitha' anhygoel".

"Gyrwyr o'r Ffindir sy'n ennill bron â bod bob blwyddyn," meddai. "Dyna'r hewlydd maen nhw 'di ga'l eu magu arno, wrth gwrs, ac felly mae'r ffaith fod Elfyn wedi ennill... mae'n rhywbeth sbesial iawn".

Dywedodd bod Ogier wedi cael rali "ofnadw o wael" ond bod y Cymro "wir wedi dangos be' mae e'n gallu 'neud.

"O'dd gyrwyr yn dod i ddiwedd y cymale methu credu amseroedd oedd Elfyn yn gosod, felly o'dd hynny'n dweud y cyfan."

Diweddglo cyffrous eto ym Monza?

Yn ôl Hana Medi, dyw hi "ddim yn amhosib" y gallai Elfyn Evans gipio'r bencampwriaeth eleni ond rhybuddiodd mai ralïau ffordd yw'r ddwy ras olaf ac mai Sebastien Ogier "yw brenin y tarmac".

"Mae hyd yn oed Elfyn yn dweud falle bod e bach yn afrealistig i feddwl am y bencampwriaeth ond pwy a ŵyr," meddai.

"Os geith Ogier ddwy rali wael wedyn gall y frwydr fynd yr holl ffordd i Monza...

"Collodd Elfyn y bencampwriaeth yn Monza y llynedd ar gornel ag eira, felly ni'n disgwyl sialens fawr ym Monza eleni...

"Yn Sbaen mae wedi cael sawl canlyniad da ond sawl canlyniad eitha' gwael hefyd felly fydd hi'n ddiddorol."

Pynciau cysylltiedig