Cerbyd Elfyn Evans wedi llithro yn Rali Monza
- Cyhoeddwyd
Mae cerbyd Elfyn Evans, y gyrrwr rali o Ddinas Mawddwy, wedi llithro oddi ar y ffordd mewn tywydd ofnadwy ar drydydd diwrnod Rali Monza yn Yr Eidal.
Roedd yna obeithion y byddai Mr Evans yn cael ei goroni yn Bencampwr Rali'r Byd a phetai hynny yn digwydd fe fyddai'r Cymro cyntaf erioed i gyflawni'r gamp.
Cyn dechrau'r ras yn Yr Eidal roedd gan y Cymro fantais o 14 pwynt dros Sebastien Ogier, sydd yn gyrru yn yr un tîm ac wedi ennill y bencampwriaeth nifer o weithiau.
Yn ôl adroddiadau o'r Eidal roedd y gyrwyr yn wynebu amodau tywydd ofnadwy ddydd Sadwrn ac mae'n debyg bod cerbyd Elfyn Evans wedi llithro oddi ar ffordd oedd wedi'i gorchuddio ag eira yng nghymal 11 o'r ras.
Dyw Mr Evans ddim wedi cael ei anafu ond mae ei gerbyd Toyota wedi cael difrod sylweddol.
Y disgwyl yw y bydd Elfyn Evans yn gorffen yn ail oni bai bod rhywbeth yn digwydd i'r Ffrancwr Sebastien Ogier.
'Roedd rhaid mentro'
Wrth siarad wedi'r digwyddiad dywedodd Elfyn Evans: "Ar ddechrau'r cymal roedd yna lawer o ddŵr llonydd ond roeddwn yn teimlo fod petha'n mynd yn weddol esmwyth ond yna roedd yna eira a'r teimlad cyffredinol oedd gen i fy mod i'n mynd braidd yn araf.
"Fe waethygodd yr eira ond roedd gafael gen i am y rhan fwyaf o'r amser.
"Wrth ddod rownd y gornel roedd yr arwyneb wedi newid ac wrth i fi frecio roedd o fel gwydr a doedd dim siawns i arafu - roedd o'n sioc i fi ond dyna fel mae petha'n mynd. Ro'dd rhaid i fi fentro - doedd dim modd i fi ennill heb hynny.
"Roedd fy nodiadau i yn dweud wrthai bod arwyneb y ffordd yn newid ond doeddwn i ddim yn disgwyl iddo newid gymaint," ychwanegodd Elfyn Evans.
Doedd hi ddim yn bosib i Mr Evans gystadlu weddill ddydd Sadwrn ond mae e'n gobeithio rasio ddydd Sul.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd20 Medi 2020
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2020