Carcharu dyn am 15 mlynedd am dreisio menyw ym mharc Bute

  • Cyhoeddwyd
Tyler HigginsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae dyn 20 oed wedi cael ei ddedfrydu i 15 mlynedd estynedig yn y carchar am dreisio menyw mewn parc yng Nghaerdydd.

Plediodd Tyler Higgins, o Ffordd Brithdir, Cathays yn euog i ddau gyfrif o dreisio ym mharc Bute.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod yr ymosodiad wedi digwydd yn ystod oriau mân 15 Gorffennaf.

Cafodd Higgins ei garcharu am 10 mlynedd ond cafodd ei ddedfryd ei hymestyn am bum mlynedd wrth i'r llys nodi fod yna risg y gallai achosi niwed difrifol i'r cyhoedd.

Pynciau cysylltiedig