'Angen i fentrau cymdeithasol gael cynnig cytundebau'

  • Cyhoeddwyd
Greenstream FlooringFfynhonnell y llun, Greenstream Flooring
Disgrifiad o’r llun,

Mae Greenstream Flooring yn Y Porth yn ailgylchu teils carped

Gallai mentrau cymdeithasol helpu i sicrhau fod Cymru yn cyrraedd ei tharged o allyriadau carbon sero net erbyn 2050 petai Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth iddyn nhw wrth neilltuo cytundebau yn y sector cyhoeddus, medd llefarydd ar ran Grŵp Rhanddeiliaid Mentrau Cymdeithasol.

"Ry'n am weld mwy o gefnogaeth i fusnesau sy'n credu ei bod yn bwysig gweithredu er budd yr amgylchedd," ychwanegodd Derek Walker.

"Ry'n ni'n gofyn i'r cyhoedd feddwl lle mae nhw'n gwario eu harian ac i wario mwy ar fentrau cymdeithasol. Meddyliwch yn amgylcheddol tra'n siopa.

"Ystyriwch a ydych yn gwario eich arian ar fenter leol sy'n cael effaith amgylcheddol. Ydi hi'n cyflogi bobl leol ac yn cynnwys eich cymuned?"

Mae'r mentrau yn werth £3.8bn i economi Cymru ac yn cyflogi 56,000 o bobl. Maent yn credu bod y "blaned a'i phobl" yn bwysicach nag elw.

Disgrifiad o’r llun,

'Mae cynaliadwyedd a'r gymuned leol lawn mor bwysig ag elw,'medd Ellen Petts

Dywed Ellen Petts, rheolwr gyfarwyddwr cwmni Greenstream Flooring yn Y Porth yn Y Rhondda ei bod hi'n cytuno a bod cynaliadwyedd a'r gymuned leol lawn mor bwysig ag elw.

Mae'r cwmni yn ailgylchu teils carped ar gyfer cwmnïau masnachol.

"Ry'n yn darparu ateb cymdeithasol drwy ddarparu carpedi i'r rhai sydd methu eu fforddio. Mae miliynau o'r teils yma yn gael eu gosod ar loriau a miliynau yn cael eu codi ond ychydig iawn sy'n cael ail fywyd - yn sicr ddim ar gyfer diben cymdeithasol."

Dywed Llywodraeth Cymru bod buddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol wrth wraidd pob penderfyniad.

Menter gymdeithasol arall sy'n gwasanaethu'r gymuned yw Creu Menter, rhan o gymdeithas dai Cartrefi Conwy.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Bryn Jones bod tai Creu Menter yn rhatach i'w rhedeg ac yn iachach

Dywed y prif dechnegydd Bryn Jones: "Mae Creu Menter yn creu cyfle i bobl sydd allan o waith ac yn dod â nhw mewn i'r system addysgu ac yn rhoi profiad gwaith da.

"Mae'n tîm yn dod o Gymru, mae'r cynnyrch yn dod o Gymru a'r llafur o Gymru. Ry'n yn codi tai sydd 80% yn rhatach i'w rhedeg - mae nhw'n dai iach i bobl fyw ynddyn nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Creu Menter yn cyflogi pobl lleol ac yn rhoi gwaith i bobl di-waith

"Rwy'n credu bod mentrau cymdeithasol yn rhoi blaenoriaeth i bobl ac i'r blaned," meddai'r prif weithredwr Andrew Boden, "ond mae'n bwysig bod yna rywfaint o elw fel bod y busnesau yn gynaliadwy.

"Mae cadw'r bunt Gymreig yng Nghymru yn hynod o bwysig i ni. Wrth ostwng y gadwyn cyflenwi ry'ch yn gostwng eich ôl-troed carbon ac felly mae busnesau yn fwy cynaliadwy."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen i Gymru gyrraedd ei tharged o allyriadau carbon sero net erbyn 2050

Mae sero net yn golygu y byddai cyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr yn hafal neu'n llai na'r allyriadau sy'n cael eu tynnu o'r amgylchedd.

Mae ymchwil newydd gan Social Enterprise UK yn awgrymu bod mentrau cymdeithasol, yn gyffredinol, yn meddwl mwy am gynaliadwyedd.

Dywedodd 65% o fentrau bod disgwyl i'w ffocws ar brosesau cynaliadwyedd gynyddu yn ystod y tair blynedd nesaf - roedd y ganran ar gyfer busnesau traddodiadol yn 49%.

Dim ond 20% o fusnesau sy'n ystyried bod cost yn bwysicach nag effaith amgylcheddol wrth gael nwyddau - hynny i gymharu â 76% o fentrau cymdeithasol bach a chanolig.

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae ein polisi caffael yn nodi cyfeiriad strategol ar gyfer caffael cyhoeddus yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac wrth wraidd pob penderfyniad mae buddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

"Mae'r canllaw ar gyfer sefydliadau prynu y sector cyhoeddus yng Nghymru yn nodi bod angen ystyried y defnydd o fentrau cymdeithasol fel rhan o gytundeb."