Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Connacht 22-35 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Connacht v DreigiauFfynhonnell y llun, Getty Images

Llwyddodd y Dreigiau i drechu Connacht oeddi cartref am y tro cyntaf ers 2004 ddydd Sadwrn gyda pherfformiad arbennig yn Galway.

Y Dreigiau sgoriodd unig gais yr hanner cyntaf wrth i'r asgellwr Jonah Holmes groesi yn y gornel yn dilyn gwaith da gan y cefnwr Jordan Williams.

Ond oherwydd diffyg disgyblaeth gan yr ymwelwyr - gan gynnwys cerdyn melyn i'r clo WIll Rowlands - Connacht oedd ar y blaen o 12-8 ar yr egwyl diolch i bedair gôl gosb gan Jack Carty.

Aeth y Cymry ar y blaen o fewn 10 munud o'r ail hanner, gyda Williams yn creu'r cais i'w hun y tro hwn, cyn i gais gan y prop Mesake Doge ymestyn y fantais i 10 pwynt.

Fe wnaeth y Gwyddelod daro 'nôl gyda chais gan Mack Hansen cyn i Holmes sgorio ei ail gais i adeiladu mantais y Dreigiau i 15.

Er i gais Conor Fitzgerald ostwng y fantais unwaith eto, roedd yr ymwelwyr eisoes wedi gwneud digon i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Pynciau cysylltiedig