Arestio menyw wedi i blentyn farw mewn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
heol goffaFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar groesffordd Heol Goffa yn Llanelli nos Wener

Mae menyw wedi cael ei harestio ar ôl i blentyn farw mewn gwrthdrawiad yn Llanelli nos Wener.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng BMW glas a Vauxhall glas ar groesffordd Heol Goffa yn y dref am tua 21:00.

Dywedodd y llu y bu farw plentyn oedd yn teithio yn un o'r cerbydau o ganlyniad i'r gwrthdrawiad. Dydyn nhw ddim wedi manylu am oedran y plentyn.

Mae'r fenyw, oedd yn teithio yn y cerbyd arall, wedi cael ei harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ac yn parhau yn y ddalfa.

Pynciau cysylltiedig