'Dim hawl' gan brotestwyr gwrth-frechu i godi ofn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
ProtestwyrFfynhonnell y llun, Angela Baker-Earle
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Angela a Grace Baker-Earle fod y protestwyr wedi amgylchynu eu car ym Mae Caerdydd

Dyw hi "ddim yn dderbyniol" i brotestwyr gwrth-frechu godi ofn ar bobl tu allan i ganolfannau brechu, meddai'r Prif Weinidog.

Daw sylwadau Mark Drakeford wedi i fam a merch 15 oed ddweud eu bod wedi cael eu hamgylchynu gan brotestwyr ym Mae Caerdydd.

Roedd Grace Baker-Earle, wnaeth ddatblygu Myalgic Encephalopathy (ME) ar ôl cael Covid y llynedd ac felly'n defnyddio cadair olwyn, wedi mynd am ei brechiad cyntaf ddydd Sadwrn.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi mynychu'r brotest a'u bod wedi arestio un dyn.

Cafodd y dyn 61 oed o Gasnewydd ei arestio ar amheuaeth o droseddau'n ymwneud â hiliaeth, ac fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth.

Ffynhonnell y llun, Angela Baker-Earle
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd ei mam fod Covid "wedi newid bywyd Grace"

Dywedodd Mr Drakeford ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales: "Mae hawl gan bobl i brotestio - mae hawl i roi eich barn.

"Ond does dim hawl ganddyn nhw i'w wneud mewn ffordd sy'n codi ofn ar eraill.

"Mae'n ffordd o aflonyddu - nid dyna beth mae'r person sy'n protestio yn ei feddwl, ond mae'n cael yr effaith hynny ar yr unigolyn.

"Yn amlwg yn yr achos yma roedden nhw wedi codi ofn ar y fenyw ifanc."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford nad oes hawl gan brotestwyr i "godi ofn ar eraill"

Ychwanegodd y Prif Weinidog fod yn rhaid i'r heddlu "fod yn barod i weithredu" mewn digwyddiadau o'r fath.

"Maen nhw'n gywir i ddweud fod gan bobl yr hawl i brotestio ac yn y blaen, ond mae angen iddyn nhw feddwl yn nhermau'r effaith y bydd hyn yn ei gael ar unigolyn, yn yr achos yma, gafodd ei hamgylchynu gan grŵp o bobl," meddai.

Dywedodd mam Grace, Angela fod y profiad yn "ofnadwy", wedi i'r protestwyr ei chyhuddo o ddefnyddio ei merch fel "lab rat".

Yn ôl Angela, o ardal Y Bont-faen ym Mro Morgannwg, fe wnaeth criw o tua 15 o brotestwyr amgylchynu ei char a bu'n rhaid iddi ddweud wrth un am "gamu 'nôl".

Ffynhonnell y llun, Angela Baker-Earle
Disgrifiad o’r llun,

Bu Angela Baker-Earle yn yr ysbyty gyda Covid y llynedd, tra bu Grace yn "wael iawn" gyda'r feirws

Mae rhiant arall, Melissa Ringham wedi galw am fwy o ddiogelwch i bobl sy'n mynychu canolfannau brechu wedi iddi hi a'i merch 15 oed gael eu targedu gan brotestwyr yn y Bae ddydd Sadwrn.

Dywedodd fod un o'r protestwyr wedi eu dilyn i'r drws a gweiddi arnynt.

"Doeddwn i ddim yn teimlo'n ddiogel yn cerdded mewn yno," meddai.

"Wrth i ni gerdded allan roedd un fenyw yn gweiddi arna i 'Rhag eich cywilydd - dy'ch chi'n lladd eich merch'."

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, sy'n gyfrifol am y ganolfan frechu, wedi cael cais am sylw.

Mae plant rhwng 12 a 15 oed yng Nghymru wedi bod yn cael cynnig brechlyn Covid ers 4 Hydref.