'Nadolig tebycach i'r arfer', medd Mark Drakeford
- Cyhoeddwyd
Bydd Nadolig eleni yn agosach i un arferol nag oedd yn 2020, meddai'r Prif Weinidog Mark Drakeford.
Dywedodd os na fydd rhywbeth annisgwyl yn digwydd y gallai Cymru edrych ymlaen at dymr yr Ŵyl fydd yn "llawer tebycach i'r rhai yr y'n ni wedi arfer gyda nhw".
Dywedodd Llywodraeth Cymru hefyd fod busnesau'n debygol o gael aros ar agor drwy'r hydref a'r gaeaf.
Daeth y sylw wrth i weinidogion baratoi i gyhoeddi cynllun rheoli newydd ar gyfer ymateb i coronafeirws dros y misoedd nesaf.
Mae'r cynllun yn cynnwys dwy senario, sef Covid Sefydlog a Covid Brys.
O dan y senario gyntaf byddai Cymru'n parhau ar lefel rhybudd sero drwy gydol yr hydref a'r gaeaf gyda phob busnes yn gallu agor.
Senario 'fwyaf tebygol'
Yn ôl y llywodraeth y senario yma sydd "fwyaf tebygol" wrth i Gymru ymgyfarwyddo â byw gyda coronafeirws, a symud at sefyllfa ble mae'r feirws yn salwch tymhorol.
Bydd modd llacio a chryfhau rheolau o hyd o dan y senario yma.
Mae'r ail senario wedi ei chynllunio i ymateb i unrhyw newidiadau sydyn allai roi gormod o bwysau ar y gwasanaeth iechyd, er enghraifft ymddangosiad amrywiolyn newydd.
Os oes angen symud i'r senario yma, byddai'r system lefelau rhybudd a chyfyngiadau yn cael eu defnyddio "mewn modd cymesur i ddiogelu iechyd pobl, rheoli lledaeniad yr haint a diogelu'r gwasanaeth iechyd".
Mewn cynhadledd i'r wasg amser cinio fe wnaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford gadarnhau na fydd unrhyw newidiadau i'r cyfyngiadau presennol am y tair wythnos nesaf.
Yn siarad cyn y gynhadledd, dywedodd: "Mae gaeaf heriol iawn o'n blaenau ni. Nid yw'r coronafeirws wedi diflannu ac maen nhw hefyd yn rhagweld y bydd y ffliw yn dychwelyd y gaeaf hwn.
"Y brechlyn yw'r amddiffyniad gorau sydd gennym ni o hyd yn erbyn y coronafeirws. Y mwyaf o bobl a fydd yn cael eu brechu'n llawn, y gorau oll fydd ein siawns o reoli lledaeniad y feirws ofnadwy hwn.
"Byddwn ni'n parhau i ganolbwyntio ar gynyddu nifer y bobl sy'n cael brechiadau Covid-19 ar draws y grwpiau oedran a'r grwpiau blaenoriaeth yn ogystal â chyflwyno'r brechiad atgyfnerthu.
"Rydyn ni hefyd yn annog pob un sy'n gymwys i fynd i gael y brechiad rhag y ffliw eleni."
Ychwanegodd y Prif Weinidog y dylai pobl barhau i olchi eu dwylo yn gyson, cyfyngu ar nifer y bobl y maen nhw'n cwrdd a gwisgo mygydau mewn mannau cyhoeddus dan do.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd y meddyg teulu Dr Eilir Hughes ar raglen Dros Frecwast: "Mae'n eitha' amlwg ein bod ni bellach yn byw hefo'r feirws.
"'Dan ni'n gwybod bod y marwolaethau yma yn parhau. 'Dan ni'n hofran o gwmpas ryw ddeg marwolaeth y dydd ar y cyfan a 'dan ni'n disgwyl y bydd y cyfanswm o farwolaethau yn sgil Covid yn rhyw 6,000 erbyn diwedd y mis sydd yn garreg filltir arall yn hanes Covid-19 yng Nghymru.
"Dwi'n teimlo bod yn rhaid i ni atgoffa pobl ein bod yn parhau mewn argyfwng iechyd cyhoeddus a dylan ni fod mor ystyriol â phosib i osgoi lledu'r feirws tra'n mwynhau y bywyd mwy rhydd o gyfyngiadau."
Bydd pasys Covid yn cael eu cyflwyno yng Nghymru ar gyfer clybiau nos a digwyddiadau mawr o ddydd Llun ymlaen wedi i'r llywodraeth ennill pleidlais ar y mater yn y Senedd o drwch blewyn yr wythnos hon.
Bydd angen prawf eu bod nhw wedi cael dau frechiad, neu ganlyniad negyddol yn dilyn prawf Covid llif unffordd o fewn y 48 awr flaenorol.
Dim angen gwirio pob pàs
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Gwener dywedodd Mr Drakeford na fydd trefnwyr digwyddiadau mawr o reidrwydd angen sicrhau bod gan bob unigolyn bàs Covid.
"Beth fydd y gyfraith yn ei ddweud yng Nghymru yw, bydd rhaid i bobl sy'n rhedeg y gêm, neu beth bynnag yw e, gymryd camau rhesymol i checkio os ydy pobl wedi gwneud be 'da ni yn gofyn iddyn nhw ei wneud," meddai.
"Pan mae lot fawr o bobl yn trio mynd mewn er enghraifft, does dim rhaid checkio bob un. Maen nhw'n gallu 'neud un mas o bob pum person, er enghraifft.
"Yn fy marn i mae pobl yng Nghymru, dros gyfnod y coronafeirws i gyd, wedi dangos eu bod nhw eisiau gwneud pethau i gadw nhw a phobl eraill yn ddiogel.
"Os oes nifer fawr o bobl yn aros i fynd mewn i gêm rygbi er enghraifft, os y'ch chi'n trio checkio pob un o'r bobl, mae hynny'n creu problemau eraill. Felly bydd system o spot checks yn y gyfraith."
Ychwanegodd Mr Drakeford yn y gynhadledd fod Llywodraeth Cymru yn ei gwneud hi'n haws ymweld ag anwyliaid mewn cartref gofal o ddydd Gwener ymlaen.
"Mae cartrefi gofal ac ymweld â chartrefi gofal wedi bod yn un o'r materion mwyaf heriol yn ystod y pandemig," meddai.
"Bydd hawl nawr gan reolwyr cartrefi ganiatáu i ymwelwyr gymryd prawf llif unffordd adref ac ni fydd rhaid iddyn nhw hunan-ynysu mewn ystafell preswylydd nag mewn ystafell ymweld benodol.
"Bydd cyfyngiadau'n gysylltiedig â rhoddion hefyd yn cael eu llacio, gan gynnwys bwyd a diod."
Galw am ragor o fanylion
Dywed llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, ei bod yn bwysig i'r gwrthbleidiau "ofyn am gymaint o fanylion â phosib".
"Ry'n ni angen gwybod bod yna gynllun petai'r sefyllfa yn gwaethygu. Roedd yna naid yn y ffigyrau ddoe sydd, o bosib, yn gwneud rhai pobl yn nerfus.
"Ry'n ni angen gwybod bod y llywodraeth yn gallu gweithredu ar hynny a bod gan Lywodraeth y DU gynlluniau ar gyfer ffyrlo, petai angen."
Ychwanegodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George fod yna "dal bach o ddryswch fan hyn o ran y cynllun rheoli, oherwydd rydyn ni'n gwybod bod gennym ni'r cynllun pwysau gaeaf ar gyfer y GIG yn dod allan ar 18 Hydref".
"Rhyddhawyd hwn fis yn gynt y llynedd, ac yn wreiddiol clywsom ni fyddai'r cynllun yma'n rhan o'r cynllun rheoli cafodd ei gyhoeddi heddiw.
"Mae yna bach o ddryswch yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2021