Protestwyr gwrth-frechu wedi 'codi ofn' ar fam a merch

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
ProtestwyrFfynhonnell y llun, Angela Baker-Earle
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Angela Baker-Earle fod y protestwyr wedi amgylchynu ei char

Mae menyw a'i merch anabl 15 oed wedi dweud fod grŵp o brotestwyr gwrth-frechu wedi codi ofn arnynt tu allan i ganolfan frechu ym Mae Caerdydd.

Fe wnaeth Grace Baker-Earle, o ardal Y Bont-faen ym Mro Morgannwg, ddatblygu Myalgic Encephalopathy (ME) ar ôl cael Covid y llynedd, ac mae hi bellach yn defnyddio cadair olwyn.

Roedd hi wedi mynd i gael ei brechiad cyntaf gyda'i mam, Angela, pan ddechreuodd y protestwyr ofyn iddi pam ei bod yn fodlon bod yn "lab rat".

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi mynychu'r brotest ac nad oes unrhyw un wedi'u harestio.

Mae plant rhwng 12 a 15 oed yng Nghymru wedi bod yn cael cynnig brechlyn Covid ers 4 Hydref.

Ffynhonnell y llun, Angela Baker-Earle
Disgrifiad o’r llun,

Bu Angela Baker-Earle yn yr ysbyty gyda Covid y llynedd, tra bu Grace yn "wael iawn" gyda'r feirws

Dywedodd Angela fod delio gyda'r protestwyr tra'n ceisio cael cadair olwyn ei merch i mewn i'w char yn "ofnadwy" a'u bod wedi "codi ofn" ar y ddwy.

Fe wnaeth grŵp o thua 15 o brotestwyr amgylchynu eu car, meddai Angela, a dywedodd ei bod wedi dweud wrth un am "gamu 'nôl".

"Roedd e o fewn dwy droedfedd, ac yn edrych arna i fel tasen i yn ddwl," meddai.

Dywedodd fod swyddog wedi dod o'r ganolfan frechu er mwyn sicrhau bod y ddwy yn iawn yn dilyn y digwyddiad.

"Mae 'na blant 12 oed am fynd yno a gorfod wynebu hynny - mae'n afiach," meddai Angela.

Ffynhonnell y llun, Angela Baker-Earle
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd ei mam fod Covid "wedi newid bywyd Grace"

Ychwanegodd ei bod hi wedi bod yn yr ysbyty gyda Covid a niwmonia ym mis Tachwedd 2020 - yr un adeg y bu Grace yn delio gyda'r feirws.

"Roedd Grace yn wael iawn am gwpl o wythnosau. Fe wnaeth hi golli hanner stôn ac roedd hi'n sâl iawn," meddai Angela.

"Dywedodd cardiolegydd, gan fod Grace wedi cael feirws cyn hynny ym mis Mawrth, bod Covid wedi gwaethygu'r sefyllfa nes bod ganddi ME.

"Nawr mae'n rhaid iddi ddefnyddio cadair olwyn er mwyn mynd dros 50 llath, ac mae ganddi guriad calon uchel iawn.

"Mae wedi newid bywyd Grace, ac rydyn ni oll yn gobeithio y bydd hi'n gwella. Mae hyn oll oherwydd ei bod wedi cael Covid ym mis Tachwedd."