Cyhuddo menyw wedi i blentyn farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 23 oed wedi cael ei chyhuddo o droseddau gyrru ar ôl i blentyn farw mewn gwrthdrawiad yn Llanelli nos Wener.
Mae Lucy Dyer o'r dref wedi'i chyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ac o yrru dan ddylanwad alcohol.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng BMW glas a Vauxhall glas ar groesffordd Heol Goffa yn Llanelli am tua 21:00.
Dywedodd y llu y bu farw plentyn oedd yn teithio yn un o'r cerbydau o ganlyniad i'r gwrthdrawiad. Dydyn nhw ddim wedi manylu am oedran y plentyn.
Mae disgwyl i Ms Dyer, oedd yn teithio yn y cerbyd arall, ymddangos yn y llys ddydd Llun.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2021