Comisiynydd yn flin am 'nonsens' protest gwrth-frechu

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
ProtestwyrFfynhonnell y llun, Angela Baker-Earle
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Angela a Grace Baker-Earle fod y protestwyr wedi amgylchynu eu car ym Mae Caerdydd

"Nonsens gwirion" yw rhai protestiadau y tu allan o ganolfannau brechu, yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael.

Dros y penwythnos fe wnaeth y prif weinidog Mark Drakeford ddweud nad oedd brotestwyr yr hawl i "godi ofn" ar bobl y tu allan i'r canolfannau.

Roedd Grace Baker-Earle, wnaeth ddatblygu Myalgic Encephalopathy (ME) ar ôl cael Covid y llynedd ac felly'n defnyddio cadair olwyn, wedi mynd am ei brechiad cyntaf ddydd Sadwrn, ac fe gafodd hi a'i mam eu hamgylchynu gan brotestwyr.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi mynychu'r brotest a'u bod wedi arestio un dyn.

Wrth siarad ar Radio Wales fore Llun, dywedodd Mr Michael: "Rwy'n flin iawn am agwedd y protestwyr yma, oherwydd mae'r hyn y maen nhw'n protestio amdano yn nonsens gwirion, ond fe allai atal rhai rhag cael eu brechu ac mae'n amlwg yn annerbyniol yn yr esiampl yma.

"Mae'n gydbwysedd anodd i'r heddlu oherwydd mae'n rhaid gwarchod hawliau sifil y rhai sy'n protestio, ond mae'n rhaid gwarchod plant rhag cael eu dychryn hefyd. Pam fod y grŵp yma yn anwybyddu'r dystiolaeth yn llwyr?

"Fe gafodd un dyn ei arestio ddydd Sadwrn, ac fe fydd yn y llys o ganlyniad.

"Beth sy'n dilyn o ddigwyddiadau unigol yw cynyddu presenoldeb yr heddlu os fydd angen, ac yna bydd y plismyn sydd yno'n gallu barnu a gweld beth sy'n digwydd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford nad oes hawl gan brotestwyr i "godi ofn ar eraill"

Mae Dr Bnar Talabani yn feddyg yng Nghaerdydd sy'n gweithio i geisio chwalu'r mythau am y brechlyn, ac fe welodd y brotest yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Dywedodd hi: "Fe welais i bobl yn dal placardiau, ac fe glywais gan staff nad y ferch yma yn unig gafodd ei herlid a'u bod nhw'n ceisio dychryn pobl hŷn hefyd.

"Roedden nhw'n dweud pethau fel 'mae'n frechlyn arbrofol... peidiwch gadael iddyn nhw eich defnyddio chi fel llygoden mewn labordy'... mae'r conspiracy theories yma wedi cael eu chwalu gymaint o weithiau, ond eto mae lleiafrif bach sy'n dal i ledaenu cam-wybodaeth fel hyn ac mae'n gwneud llawer o niwed."

Hefyd ar y rhaglen ar Radio Wales oedd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Fe ymatebodd i'r stori trwy ddweud: "Mae'n glir i mi bod y protestwyr wedi croesi llinell... mae'r hawl i brotestio yn bwysig, ond dyw hi ddim yn dderbyniol i wneud hynny mewn ffordd sy'n codi ofn ar eraill.

"Rwy'n gobeithio fod y bobl a wnaeth hyn yn deall y niwed y maen nhw'n ei achosi i'r bobl. Fedra' i ddim amddiffyn hyn ac rwy'n credu fod yr ymddygiad yn gywilyddus ac fe ddylai'r oedolion a wnaeth hyn gymryd golwg galed arnyn nhw'u hunain."