Cyfeirio achos plentyn a darwyd gan gar heddlu i'r IOPC

  • Cyhoeddwyd
Ffordd Llanerch
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y plentyn ei daro ar Ffordd Llannerch ym mhentref Pen-y-Cae

Dywed Heddlu'r Gogledd bod y plentyn dyflwydd a anafwyd mewn gwrthdrawiad â cherbyd yr heddlu yn Sir Wrecsam brynhawn Gwener yn parhau yn yr ysbyty ond yn gwella'n dda.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Llannerch ym mhentref Pen-y-Cae.

Ers hynny mae'r llu wedi cyfeirio'r digwyddiad at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Dywedodd yr uwch-arolygydd Nick Evans: "Mae'n ofynnol i luoedd yr heddlu gyfeirio digwyddiadau o'r fath at yr IOPC er mwyn sicrhau adolygiad annibynnol.

"Ry'n yn parhau i gadw mewn cysylltiad â theulu'r plentyn ac yn gobeithio am adferiad parhaus a buan iddo.

"Ry'n hefyd yn estyn cefnogaeth i'r swyddogion a oedd yn teithio yng nghar yr heddlu - fe wnaethon nhw roi cymorth cyntaf i'r plentyn cyn i'n cydweithwyr yn y gwasanaeth ambiwlans gyrraedd."

Pynciau cysylltiedig