Angen cadw rygbi am ddim ar y teledu, medd Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cymru v Seland NewyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cymru'n croesawu Seland Newydd i Gaerdydd yng ngêm gyntaf Cyfres yr Hydref eleni

Dylai gemau rygbi rhyngwladol yr hydref fod yn ddigwyddiadau wedi'u gwarchod a chael eu dangos am ddim ar deledu daearol, medd Plaid Cymru.

Mae cytundeb gyda chwmni Amazon Prime eleni yn golygu na fydd y gemau yn fyw ar S4C.

Yn 2020 roedd gemau Cymru yn fyw ar Amazon Prime ac S4C, ond eleni bydd rhaid cael cyfrif Prime i'w gweld, gydag uchafbwyntiau ar S4C rhyw awr wedi'r chwiban olaf.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar chwaraeon y dylai Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth y DU sicrhau fod pawb yn medru gweld gemau yn y dyfodol.

Mae'r Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, ac Amazon wedi cael cais am ymateb.

'Chwaraeon ar S4C yn helpu dysgwyr'

Mewn llythyr at Nadine Dorries, mae Heledd Fychan o Blaid Cymru wedi gofyn am roi statws Categori A o dan y Ddeddf Darlledu 1996 i gyfres rygbi'r hydref yn ogystal a phencampwriaeth y Chwe Gwlad a holl gemau rhyngwladol pêl-droed Cymru.

Ar y rhestr yna'n barod mae rownd derfynol Cwpan yr FA, ras geffylau'r Grand National a'r Gemau Olympaidd.

Ddydd Mercher dywedodd prif weithredwr S4C, Owen Evans wrth Bwyllgor Diwylliant y Senedd fod y cytundeb newydd gydag Amazon Prime yn "gam yn ôl".

"Dydy S4C ddim yn croesawu beth sydd wedi digwydd. Rydyn ni'n croesawu'r ffaith y bydd gennym ni rywfaint o uchafbwyntiau, tua awr o bosib, ond fe fyddai'n well gennym ni gael chwaraeon byw," meddai.

Bydd S4C yn dangos uchafbwyntiau yn unig o'r gemau yn erbyn Seland Newydd, De Affrica, Fiji ac Awstralia, a hynny awr wedi'r chwiban olaf.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Heledd Fychan fod "chwaraeon ar S4C yn aml yn borth i'r iaith i nifer o ddysgwyr Cymraeg"

Yn ei llythyr, mae Ms Fychan hefyd yn dweud fod y trefniadau newydd yn "siomedig iawn", gan ddisgrifio rygbi fel "nid yn unig camp sy'n boblogaidd iawn yng Nghymru" ond sydd hefyd "yn rhan ehangach o'n diwylliant a hunaniaeth".

"Mae mwyafrif llethol y gynulleidfa sy'n gwylio gemau Cymru yn gwneud hynny yn eu cartrefi neu yn y dafarn leol, nid yn y stadiwm, ac mae rhoi pris ar wylio Cyfres yr Hydref yn golygu na fydd cefnogwyr yn medru dilyn eu tîm cenedlaethol," meddai.

"Hefyd mae chwaraeon ar S4C yn aml yn borth i'r iaith i nifer o ddysgwyr Cymraeg, ond porth a fydd ar gau gan y penderfyniad yma."

Rhybuddiodd yr AS hefyd y gallai'r cytundeb newydd gydag Amazon "osod cynsail peryglus ar ddyfodol darlledu chwaraeon yn Gymraeg".

"Mae rygbi Cymru yn perthyn i bawb yng Nghymru - ni ddylwn gael ein prisio allan o'n diwylliant ein hunain," ychwanegodd.