Tynged cerflun HM Stanley yn nwylo trigolion Dinbych

  • Cyhoeddwyd
Cerflun HM Stanley yn Ninbych
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cerflun yn ail-greu HM Stanley'n cyfarch y fforiwr coll, Dr David Livingstone yn Affrica

Mae pleidlais yn cael ei chynnal yn Ninbych ddydd Gwener a dydd Sadwrn i benderfynu a ddylid cadw cerflun dadleuol o'r anturiaethwr HM Stanley yng nghanol y dref.

Mae rhai yn ei weld yn arwr, ac yn awyddus i gydnabod ei gamp yn darganfod tarddiad Afon Nîl yn Affrica a'i gysylltiad gyda'r enwog Dr Livingstone.

Ond mae eraill yn gwrthwynebu coffáu'r Cymro oherwydd ei gysylltiad gyda brenin Gwlad Belg, Leopold II a chamdriniaeth ddifrifol o bobl Y Congo yn y 19eg Ganrif.

Penderfynodd Cyngor Tref Dinbych yn yr haf i roi cyfle i drigolion lleol bleidleisio o blaid neu yn erbyn cadw'r cerflun, sydd o flaen llyfrgell y dref.

Ers protestiadau Black Lives Matter y llynedd mae cwestiynau wedi cael eu gofyn pa mor addas ydy cofio pobol fel HM Stanley mewn llefydd amlwg.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r unig fanylion ar blac y cerflun

John Rowlands oedd ei enw gwreiddiol pan gafodd ei eni, yn blentyn siawns, yn Ninbych yn Ionawr 1845. Newidiodd ei enw i Henry Morton Stanley ar ôl symud i America.

Mae'n cael ei adnabod fwyaf am ei waith yn archwilio Affrica, yn arbennig yn Y Congo, ac am yr ymgyrch i ddod o hyd i'r fforiwr Dr David Livingstone a'i gyfarch gyda'r geiriau 'Dr Livingstone, I presume?'.

'Roedd yn caru'r bobl dduon'

Un sydd am weld y cerflun yn aros yn ei le yw'r Cynghorydd Gwyneth Kensler, sy'n cynrychioli un o wardiau Dinbych ar y cyngor sir.

"Mae'n rhaid ystyried ei fywyd o'r cychwyn," meddai.

"Pan gafodd ei eni, cael ei wrthod gan ei fam, ei osod yn y tloty yn Llanelwy, wedyn ffeindio ei ffordd i America a gweithio i bapur y New York Herald a chael ei yrru i ffeindio Livingstone, a fo ddaru ffeindio Livingstone.

"Oedd hynna yn ddigon o gamp ond wedyn aeth o'n ôl i'r Congo a mapio'r Congo.

"Mae'n rhaid i chi ystyried y cyfnod. Oedd hi'n gyfnod ofnadwy ac wrth gwrs roedd 'na farchnata caethweision. [Roedd o'n] le peryglus ond ddaru o ddarganfod tarddiad Afon Nîl a'r Afon Congo."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Gwyneth Kensler o'r farn nad oedd HM Stanley'n ddyn hiliol

Mae'r Cynghorydd Kensler yn gwadu bod HM Stanley'n hiliol, gan ddadlau "os darllenwch chi be mae o wedi sgwennu mae o'n caru y bobl dduon".

Mae Emyr Thomas, sydd hefyd yn byw yn Ninbych, yn anghytuno.

Mae o'n meddwl y dylid symud y cerflun i'r llyfrgell neu rywle lle mae modd defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf a chyflwyno ochr arall y stori.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Emyr Thomas yn dweud nad ydy'r gofeb bresennol yn cyflwyno hanes cyflawn yr anturiaethwr dadleuol

"Dwi'n meddwl ei fod o [yn hiliol] ac mae 'na ffeithiau i ddweud bod o," meddai.

"Mae 'na lot o bobl yn dweud bod o ddim, dyna oedd yn digwydd ar y pryd. Ond i fi, 'de ni'n byw mewn dyddiau lle mae mwy o bobl eisiau mwy o wybodaeth am bethe fel'na.

"Mae tair llinell amdano fo [ar y cerflun] a dydi hynny ddim yn ddigon."

'Mae pethau wedi newid'

Ychwanegodd Mr Thomas: "Yn lle cael gwared ohono fo - dwi'm yn dweud cael gwared ar y bennod yma o hanes - mae eisiau cael y ffeithiau.

"Pa well na chael plant i ddod i'r llyfrgell, eistedd i lawr a chael gwers amdano fo [ac] am bethau sy'n fwy atebol at y dyddiau yma?

"Mae o'n gerflun smart iawn ond does 'na ddim byd yno i ddweud [yr holl hanes], a 'da ni efo'r dechnoleg rŵan dyddia' yma i roi rhywbeth yn ei le lle mae pawb yn deall 'Ie, mi ddoth [Stanley] o Ddinbych, 'naeth o'n dda y dyddiau yna ond mae pethau wedi newid'."

Mae'r bleidlais yn cael ei chynnal yn Neuadd y Dref ddydd Gwener ac yn cau am 13:00 ddydd Sadwrn.

Bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi yng nghyfarfod Cyngor Tref Dinbych nos Fercher 27 Hydref.

Pynciau cysylltiedig