Y Bencampwriaeth Rygbi Unedig: Dreigiau 10-24 Stormers

  • Cyhoeddwyd
Manie LibbokFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Manie Libbok ddisgleirio i'r Stormers yn erbyn y Dreigiau nos Wener

Colli fu hanes y Dreigiau adref yn erbyn y Stormers yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig nos Wener.

Roedd y chwarter cyntaf yn gêm gystadleuol dda rhwng y ddau dîm, gyda'r Stormers yn mynd ar y blaen drwy gic gosb lwyddiannus Manie Libbok.

Ar ôl dwy funud ar hugain fe sgoriodd Josh Lewis i'r Dreigiau wedi cic isel gan Sam Davies, ac yna ychwanegodd Davies y trosiad i roi'r Cymry ar y blaen. Ymhen chwe munud roedd Sam Davies wedi ychwanegu tri phwynt at y sgôr wedi cic gosb arall.

Ond wrth i hanner amser ddod yn nes, fe ildiodd y Dreigiau chwe phwynt yn ddiangen gyda chiciau cosb blêr ac felly roedd hi'n 10 i 9 ar hanner amser.

Roedd na dân yn chwarae'r Stormers ar ddechrau'r ail hanner, ond amddiffynnodd y Dreigiau yn dda am dros ugain munud ond ildio cais yn y diwedd gyda Leolin Zas yr asgellwr yn tirio.

Methu wnaeth Libbok gyda'r trosiad ond ymhen deg munud fe sgoriodd gic gosb gan roi'r Stormers ar y blaen o 10 i 17.

Ar ddiwedd y gêm roedd y Dreigiau yn bygwth llinell y Stormers, ond gydag un gic hir dyma'r tîm o Dde Affrica yn gwibio o'u dwy ar hugain gyda Zas yn croesi'r gwyngalch eto ar funud olaf y gêm.

Ychwanegodd Libbok ddeubwynt ac roedd y Dreigiau wedi colli o 10 i 24.

Roedd Brok Harris sydd yn chwarae i'r Stormers yn teimlo'n ddigon cartrefol yn Rodney Parade gan iddo chwarae i'r Dreigiau am saith mlynedd cyn dychwelyd i'w wlad ei hun yr haf diwethaf.

Pynciau cysylltiedig