Rownd ragbrofol Cwpan FA Lloegr: Marine 1-1 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Cwpan yr FAFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe wnaeth gôl hwyr achub Wrecsam rhag colli'n syfrdanol ym mhedwaredd rownd ragbrofol Cwpan Lloegr.

Roedd gôl Owen Watkinson yn edrych fel petai wedi sicrhau buddugoliaeth enwog i Marine, a hynny yn erbyn clwb sydd dair adran yn uwch na nhw.

Ond Jordan Davies oedd yr arwr i'r Dreigiau, gan rwydo ym mhedwaredd funud yr amser ychwanegol am anafiadau i sicrhau y bydd y gêm yn cael ei hailchwarae.

Bydd Wrecsam nawr yn croesawu eu gwrthwynebwyr o Lannau Mersi i'r Cae Ras ar gyfer yr ail ornest yr wythnos nesaf.

Pynciau cysylltiedig