Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Benetton 26-29 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Benetton v GweilchFfynhonnell y llun, Rex Features

Y Gweilch oedd yn fuddugol diolch i gic gosb hwyr Stephen Myler yn dilyn gem gyffrous yn Treviso yn erbyn Benetton brynhawn Sadwrn.

Doedd dim dwywaith mai Benetton ddechreuodd gryfaf, gyda chais yn dod i Gianmarco Lucchesi ar ôl dim ond chwe munud a Tomas Albornoz yn trosi.

Fe ddylai'r Eidalwyr fod wedi manteisio ymhellach, gyda Luke Morgan yn treulio deng munud yn y gell gosb a dim ond tacl wych gan asgellwr arall y Gweilch, Alex Cuthbert, yn atal ail gais yn y gornel yn y cyfamser.

Ond trodd y gêm ar ei phen ar ddiwedd yr hanner cyntaf, gyda cheisiau i Max Nagy ac Ethan Roots a throsiad Myler yn rhoi'r ymwelwyr ar y blaen o 12-7 ar yr egwyl.

Rhys Webb oedd crëwr cais Roots, a tro'r mewnwr oedd hi i groesi ar ddechrau'r ail hanner i ymestyn mantais y Gweilch.

O fewn munudau roedd y pwynt bonws wedi'i sicrhau, wrth i Webb ymestyn i gyrraedd gwaelod y pyst o'r ryc, a Myler yn trosi am y trydydd tro.

Doedd hi ddim ar ben eto fodd bynnag, gyda Rhyno Smith yn tirio ac Andries Coetzee yn trosi i gau'r bwlch i ddwsin o bwyntiau, cyn i Smith fwydo Monty Ioane am drydedd cais i Bennetton.

Yn dilyn cerdyn melyn i Cuthbert fe fanteisiodd y tîm cartref i ddod yn gyfartal gyda 12 munud i fynd, wrth i Tommaso Menoncello groesi yn y gornel a Coetzee yn trosi.

Roedd y naill dîm yn benderfynol o gipio'r pwyntiau, ond Myler oedd yr arwr wrth i'w gic gosb gyda thri munud i fynd selio'r fuddugoliaeth.

Dyma drydedd fuddugoliaeth y Gweilch yn y gystadleuaeth eleni, yn dilyn buddugoliaethau dros y Dreigiau a Rygbi Caerdydd, a cholled yn erbyn y Sharks.

Pynciau cysylltiedig