Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Leinster 50-15 Scarlets
- Cyhoeddwyd
Colli am y trydydd tro mewn pedair gêm oedd hanes y Scarlets wrth iddyn nhw gael crasfa arall gan dim o Iwerddon yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Roedd y Scarlets yn benderfynol o brofi pwynt yn dilyn y grasfa o 13-43 yn erbyn Munster y penwythnos diwethaf, ac fe ddechreuodd pethau'n dda wrth i gic gosb Sam Costelow eu rhoi ar y blaen.
Roedd Leinster yn gyfartal yn fuan wedyn diolch i gic Johnny Sexton, ond fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen unwaith eto wrth i Johnny McNicholl groesi yn y gornel.
Ond methu gyda'r trosiad wnaeth Costelow, ac roedd y Gwyddelod yn gyfartal unwaith eto wedi i Ronan Kelleher dirio yn dilyn sgarmes symudol.
Parhau wnaeth goruchafiaeth Leinster wedyn, gyda sgarmes symudol arall yn creu cyfle i Andrew Porter groesi am eu hail gais.
Llwyddodd Sexton gyda'i drosiad, cyn i gais gosb yn eiliadau olaf yr hanner ymestyn eu mantais.
Parhau i waethygu wnaeth pethau i'r Scarlets yn yr ail hanner, gyda Caelan Doris yn sicrhau pwynt bonws i Leinster a'r canolwr Ciaran Frawley yn ychwanegu'r trosiad.
Caewyd y bwlch rywfaint gyda chais Tomas Lozana a throsiad Dan Jones, ond seliwyd y fuddugoliaeth gyda cheisiau pellach i Cian Healy a dwy i Dan Sheehan.