Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Caerdydd 23-17 Sharks
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Rygbi Caerdydd i drechu'r Cell C Sharks yn dilyn gornest agos rhwng y ddau dîm ar Barc yr Arfau nos Sadwrn.
Y tîm cartref adeiladodd y fantais gynnar, gyda chic gosb Rhys Priestland ac yna cais gan Matthew Morgan.
Cafodd Uilisi Halaholo ail gais i Gaerdydd - gyda Priestland yn trosi'r ddau - cyn i'r Sharks ddechrau dod yn ôl i mewn i'r gêm wrth i Thomas du Toit dirio a Curwin Bosch drosi.
Caewyd y bwlch i saith pwynt gyda chic gosb Boeta Chamberlain cyn yr egwyl, a'r Sharks oedd ar y droed flaen ar ddechrau'r ail hanner hefyd wrth iddyn nhw geisio brwydro yn ôl.
Yn erbyn llif y chwarae, a gyda 12 munud i fynd, llwyddodd Priestland gyda chic gosb i ymestyn mantais Caerdydd unwaith eto, cyn i gais Marnus Potgieter a throsiad Chamberlain olygu munudau olaf nerfus.
Ond roedd cic gosb arall gan Priestland yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth, a golygu bod Rygbi Caerdydd yn taro yn ôl wedi dwy golled o'r bron yn y bencampwriaeth.