'Tensiynau' rhwng Llafur a Phlaid ers pleidlais pàs Covid
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Iechyd wedi cyfaddef fod y berthynas rhwng Llafur a Phlaid Cymru wedi suro ers i'r gwrthbleidiau geisio atal Llywodraeth Cymru rhag cyflwyno'r pàs Covid.
Yr wythnos diwethaf cafodd mesur Llafur ei basio yn y Senedd - ond dim ond oherwydd i un aelod Ceidwadol fethu ag ymuno mewn pryd ar gyfer y bleidlais.
Roedd Plaid Cymru hefyd wedi gwrthwynebu cynnig y llywodraeth, gan ddweud bod y pàs Covid yn "codi mwy o gwestiynau nag y maent yn eu hateb".
Mae Llafur a Phlaid Cymru ar hyn o bryd mewn trafodaethau i geisio cydweithio yn y Senedd dros y pum mlynedd nesaf, gan fod Llafur un sedd yn brin o fwyafrif.
'Am wneud gwahaniaeth'
Mae'r ddeddf yn golygu bod nawr angen pas sy'n dangos os ydy rhywun wedi'i frechu'n llawn neu os ydyn nhw wedi cael prawf negyddol diweddar i gael mynediad i ddigwyddiadau mawr a chlybiau nos.
Ond yn ôl y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan, dyw ymgais Plaid i rwystro'r pàs Covid ddim wedi helpu'r trafodaethau hynny.
"Maen nhw dal i fynd ymlaen, ond mae'n rhaid i fi gyfaddef bod y ffaith nad oedd Plaid Cymru wedi sefyll ar bwys ni oherwydd y pàs Covid, mae hwnna wedi creu tensiynau yn amlwg," meddai ar raglen Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru.
"Pwy a ŵyr os ddown ni i ganlyniad arnyn nhw, ond... mae lot o fesurau gyda ni, ni eisiau 'neud gwahaniaeth yng Nghymru.
"Mae lot o bethau gyda ni'n gyffredin gyda Phlaid Cymru, ac mi fydde fe'n help pe bai ni'n gallu dibynnu arnyn nhw ar gyfer yn sicr rhai o'r pethau mawr ar gyfer y blynyddoedd nesaf."
Mynnodd hefyd fod y pàs Covid, sydd wedi dod i rym ers dechrau'r wythnos, am gael effaith bositif ar y cyfan.
"Ro'n i'n ymwybodol iawn na fyddai hi'n berffaith, ond ro'n i hefyd yn ymwybodol bod, er enghraifft, clybiau nos yn lefydd ble mae lot o bobl ifanc yn ymgynnull, a bod dim mesurau eraill, neu ychydig iawn o fesurau eraill, i gadw pobl rhag cysylltu efo'i gilydd," meddai.
"Felly mae hwn yn fesur sydd gobeithio'n mynd i 'neud gwahaniaeth, yn enwedig [ymhlith] pobl ifanc."
Rhybuddiodd y Gweinidog Iechyd hefyd fod Cymru'n "debygol o weld miloedd ar filoedd yn dioddef o ffliw" eleni, yn wahanol i llynedd, gan ychwanegu mwy o bwysau ar ysbytai wrth i achosion Covid hefyd barhau.
Daw hynny wedi i Gymru groesi'r trothwy o dros 6,000 o farwolaethau Covid ers dechrau'r pandemig.
"Mae hi mor bwysig bod ni ddim jyst yn gweld hwn fel ffigwr neu garreg filltir, ond mae'r rhain yn bobl unigol oedd gyda bywydau llawn," meddai Eluned Morgan.
"Wrth gwrs bod hi'n destun tristwch mawr iawn, ond mae arna i ofn nad yw'r pandemig drosodd, a bod dal ffordd eitha' pell ganddo i fynd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd28 Medi 2021
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2021