'Rhaid cadw pobl ifanc Cymru os am well ddyfodol'
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru angen stopio gweithwyr medrus a phobl ifanc rhag gadael y wlad - dyna fydd Llywodraeth Cymru'n ei gyhoeddi ddydd Llun.
Bydd y Gweinidog Economi, Vaughan Gething, yn amlinellu ei weledigaeth yn sgil heriau Covid, Brexit a phoblogaeth weithiol sy'n crebachu.
Mae disgwyl iddo ganolbwyntio ar "well swyddi, lleihau'r bwlch sgiliau a mynd i'r afael â thlodi".
Dywedodd wrth raglen BBC Politics Wales ei fod yn anelu at sefyllfa "ble mae mwy o bobl ifanc yn teimlo'n hyderus ynghylch cynllunio'u dyfodol yng Nghymru".
Llai o bobl oedran gweithio
"Rhaid i ni edrych eto ar sut [gall] Cymru barhau i symud at economi gyda sgiliau a chyflogau uwch," meddai Mr Gething.
"Mae hynny'n her fawr. Dyna hanes datganoli mewn sawl ffordd - darlun o Gymru yn erbyn gweddill y DU."
Ar ben heriau'r pandemig a Brexit, mae cyfran y bobl yng Nghymru rhwng 16 a 64 oed wedi gostwng o flwyddyn i flwyddyn ers canol 2008.
Fe allai fod mor isel â 58% o'r boblogaeth erbyn 2043, yn ôl data'r llywodraeth.
Bydd Mr Gething yn anelu at greu economi "ble mae mwy o bobl ifanc yn teimlo'n hyderus ynghylch cynllunio'u dyfodol yng Nghymru, ac yna cefnogi creu swyddi ac economïau lleol mwy dynamig".
Wrth amlinellu sut mae'n gobeithio symud economi Cymru yn ei blaen, mae Mr Gething yn bwriadu cynnig "gymaint o sicrwydd â phosib" i fusnesau.
Bydd yn addo oes newydd o bartneriaeth i gryfhau datblygu economaidd rhanbarthol, cynllun i gefnogi'r "economi feunyddiol" a chefnogaeth i weithwyr mewn economi sy'n newid yn gyflym.
'Rhaid denu talent yn ôl'
"Mae pobl fy oedran i, yn eu hugeiniau cynnar, eisiau gweithio yng Nghymru, ond fi'n credu un o'r problemau mawr yw bod diffyg gwybodaeth", meddai Theo Davies-Lewis.
Mae Theo yn un o gyd-sefydlwyr Darogan Talent, rhwydwaith i helpu graddedigion Cymraeg ddod o hyd i swyddi yng Nghymru.
"Mae gyda ni broblem enfawr yng Nghymru gyda'r brain drain yma, sydd yn achosi problemau economaidd i gymdeithasau, trefi a llefydd ar draws Cymru gyfan.
"Mae'n rhaid i chi gael y talent yn dod yn ôl, neu yn aros yng Nghymru."
"Y broblem rydyn ni wedi ei chael yng Nghymru yn hanesyddol yw dydyn ni heb gael unrhyw fath o fenter sydd yn trio tynnu pobl yn ôl i Gymru," meddai.
Croesawodd Theo weledigaeth Mr Gething, ond dywedodd nid chwarae bach fydd ei chyflawni.
"Mae'n mynd i fod yn sialens enfawr, ac mae'n mynd i gymryd mwy na dwy neu dair mlynedd."
"Ond bydd hi hefyd yn gyfle ffantastig," meddai, i greu "Cymru fodern lle gall bobl greu eu bywydau nhw."
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ddweud y dylai Llywodraeth y DU "gadw addewidion ynghylch cronfeydd yn lle rhai'r Undeb Ewropeaidd" gan gefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy mawr a buddsoddi mewn ymchwil a datblygu yng Nghymru.
Mae disgwyl i Mr Gething ddweud y bydd yn mabwysiadu polisi economaidd blaengar, gan ei alw'n "adferiad Tîm Cymru".
Mae busnesau, cynrychiolwyr undeb ac arweinwyr llywodraeth leol wedi cael gwahoddiad i gynhadledd economaidd ddydd Llun ym mhencadlys newydd Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd.
Ar drothwy'r gynhadledd, dywedodd Mr Gething: "Wrth i ni wynebu Brexit, rwy'n benderfynol y bydd ein cynlluniau dichonadwy yn cynnig cyn gymaint o sicrwydd â phosib i helpu busnesau gynllunio rhag blaen."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2021