Prinder gweithwyr â sgiliau yn effeithio ar fusnesau
- Cyhoeddwyd
Mae prinder gweithwyr sydd â sgiliau penodol wedi creu "cyfnod gwallgof" i'r farchnad swyddi, yn ôl cwmni recriwtio blaenllaw.
Dywedodd Yolk Recruitment yng Nghaerdydd fod ymgeiswyr bellach mewn "sefyllfa gref" a bod ganddynt "reolaeth a phŵer" wrth geisio am swyddi.
Mae'r swyddi gwag sydd gan gleientiaid y cwmni wedi cynyddu 35% o'i gymharu â'r lefelau cyn y pandemig.
Mae ymchwilwyr yn awgrymu y bydd prinder gweithwyr medrus yn parhau i fod yn her am y pum mlynedd nesaf.
Yn ôl datganiad diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ddydd Mawrth, Cymru oedd un o'r rhanbarthau a welodd y cynnydd uchaf drwy'r DU yn nifer y bobl mewn swydd, er bod dal 4% o'r boblogaeth heb waith.
Mae'r galw am yrwyr HGV wedi derbyn llawer o gyhoeddusrwydd ond mae prinder gweithwyr mewn sawl sector arall hefyd.
"Ry'n ni wedi gweld cyfnod gwallgof yn ddiweddar, yn enwedig ers dechrau'r haf," meddai Pavan Arora.
Mae e'n brif swyddog masnachol i gwmni Yolk Recruitment yng Nghaerdydd, ac mae ei dîm recriwtio wedi ehangu i ddelio â'r cynnydd mewn swyddi gwag.
"Ar hyn o bryd, fel busnes, rydym wedi gweld cynnydd o oddeutu 35% yn y galw o'i gymharu â lefelau cyn y pandemig, felly mae hynny'n cyfateb i 35% yn fwy o swyddi sydd ar gael," meddai Mr Arora.
Tra bod pawb bellach yn ymwybodol o brinder gyrwyr lorïau, mae sectorau fel cwmnïau technoleg a chwmnïau gwasanaethau ariannol hefyd yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i staff.
Mae lletygarwch yn parhau i wynebu trafferthion hefyd - gyda chyflogau'n cynyddu a rhai tafarndai a bwytai yn cau dros dro oherwydd diffyg staff.
Cyn y pandemig roedd miloedd yn ymgeisio am swyddi, medd Mr Arora ond mae ailagor cymdeithas wedi gwrthdroi'r farchnad swyddi.
Mae hynny'n golygu bod gan rai ymgeiswyr ddewis o swyddi, a gallant fynnu cyflogau uwch neu batrymau gwaith mwy hyblyg.
"Chi biau'r dewis, eich amser chi yw hi. Mae rheolaeth a phŵer wedi symud i'ch dwylo chi," meddai Mr Arora.
"Yr hyn sy'n rhaid i chi fod yn ymwybodol ohono yw bod yna lawer o wrth-gynigion [counter-offers]. Felly mae yna lawer o gyflogwyr sy'n ceisio cadw staff wrth iddyn nhw geisio gadael busnes.
"Mae hynny'n her i gyflogwyr newydd, ond hefyd mae'n rhaid i ymgeiswyr fod yn ymwybodol efallai y gallant gael mwy gan eu cyflogwr presennol cyn mynd i'r farchnad swyddi, oherwydd mae pawb yn teimlo'r pwysau ynglŷn â pha mor wallgof mae'r farchnad swyddi bresennol."
'Prinder sgiliau'
Mae'r prinder gweithwyr medrus, hyd yn oed ar gyfer swyddi mynediad, yn effeithio'n drwm ar gynlluniau busnesau.
Dangosodd ymchwil gan y Brifysgol Agored fod mwyafrif o'r cwmnïau Cymreig a holwyd wedi dioddef o ganlyniad i brinder gweithwyr.
"Mae cyflogwyr yn wynebu prinder sgiliau, maen nhw'n ei chael hi'n anodd recriwtio pobl i'w busnesau," meddai Rhys Griffiths, rheolwr perthynas fusnes y Brifysgol Agored.
"Mae Covid yn cael effaith ar rai o'r penderfyniadau a'r heriau maen nhw'n eu hwynebu," ychwanegodd.
"Ond rydyn ni wedi bod yn ceisio olrhain pam bod prinder sgiliau. Yr hyn sy'n amlwg yw bod y prinder sgiliau wedi bod yno ers nifer o flynyddoedd ac y byddant yn parhau."
Mae prifysgolion a cholegau'n gweithio gyda busnesau i gynnig prentisiaethau neu hyfforddiant, ond mae ymchwil y Brifysgol Agored yn dangos fod cwmnïau'n disgwyl i anawsterau staffio barhau am y pum mlynedd nesaf.
Mae busnesau lletygarwch eisoes yn ceisio gweithio gyda darparwyr hyfforddiant i fynd i'r afael â'r prinder.
Mae'r grŵp bwytai yng ngogledd Cymru, Dylan's, yn lansio academi, a bydd yn gweithio gyda Choleg Llandrillo Menai i recriwtio a hyfforddi staff trwy ddarparu cymhwyster a swydd ar ddiwedd y cyfnod.
"'Dan ni wedi cael sialens newydd cyn yr haf blwyddyn yma ac roedd yn rhaid i ni recriwtio pobl i sicrhau bod y bwytai yn rhedeg fel normal," meddai David Retallick, rheolwr cyfryngau a chyfathrebu Dylan's.
"'Dan ni'n meddwl bod hyfforddiant yn bwysig iawn a 'dan ni wedi rhoi cynllun mentoriaeth i'n staff ni i greu academi Dylan's.
"Ni'n cydweithio gyda choleg lleol ac ysgolion lleol hefyd i roi cyfle i bobl ifanc i ddysgu sgiliau newydd a thyfu - ac maen nhw felly yn cael cyfle i greu gyrfa newydd yn y diwydiant lletygarwch."
Y sefyllfa ddiweddaraf yng Nghymru
Cynyddodd nifer y bobl mewn gwaith yng Nghymru 25,000 yn y tri mis hyd at Awst, o'i gymharu â'r chwarter blaenorol, yn ôl cyhoeddiad misol y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ddydd Mawrth. O'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd, mae'n gynnydd o 44,000.
Mae data'n dangos bod y cynnydd yma mewn cyflogaeth dros flwyddyn yn un o'r mwyaf drwy'r DU, ac yn debyg i'r twf yn nwyrain Lloegr.
Serch hynny, fe gododd y gyfradd ddiweithdra fymryn - 0.2% - yn y cyfnod dan sylw. O ganlyniad mae'r gyfradd bellach yn 4% yng Nghymru, sy'n is na'r cyfartaledd o 4.5% ar draws y DU.
Mae nifer y bobl na sy'n gweithio am eu bod yn ofalwyr, yn cael addysg, yn sâl neu wedi ymddeol yn gynnar, wedi gostwng o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Rhwng Mehefin ac Awst eleni roedd 428,000 o bobl yn y categori hwn - cyfradd o 22.6%, sef gostyngiad o 2.1%.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2021