Y gogledd: ‘Lle arbennig’ i ddatblygu ynni adnewyddadwy

  • Cyhoeddwyd
Fferm gwynt morolFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae gan ogledd Cymru'r potensial i arwain y gad o ran ynni adnewyddadwy, yn ôl arbenigwyr yn y sector.

Gyda chyfuniad unigryw o adnoddau naturiol, yn ogystal â hanes a thraddodiad o ddatblygu ynni, mae yna alw i ganolbwyntio ar gyfuniad o dechnegau yn hytrach na un ffynhonnell benodol.

Ond mae yna hefyd alw am fwy o gefnogaeth ariannol, yn enwedig i brosiectau llai, fel cynllun hydro Ynni Padarn Peris yn Llanberis.

Mae'r fenter gymunedol yn gwerthu'r trydan sy'n cael ei gynhyrchu i'r Grid Cenedlaethol.

Cafodd ei sefydlu yn 2017 ar ôl cael ei ariannu gan gyfranddalwyr lleol, sy'n derbyn elw ar eu buddsoddiad.

Mae unrhyw arian dros ben wedyn yn cael ei roi i elusen leol, sy'n ei ddosbarthu i'r gymuned leol. Dros y blynyddoedd diwethaf maen nhw wedi derbyn tua £10,000 y flwyddyn.

Ond er y llwyddiant, mae rheolwyr y prosiect yn dweud y byddai'n anodd ehangu oherwydd diffyg cefnogaeth ariannol yn yr hirdymor.

"Fel ma' costau trydan yn cynyddu, fel maen nhw wedi gwneud yn ddiweddar iawn, yna fydda rywun yn rhagweld byddai 'na fwy o bres yn dod i'n buddsoddwyr ni a mwy o arian wedyn i'r elusen," meddai Paula Williams, o Ynni Padarn Peris.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Paula Williams yn galw am fwy o gefnogaeth ariannol i gynlluniau ynni adnewyddadwy bach

"Fydda' fo ddim yn ddrwg o beth gweld Llywodraeth Cymru yn ailgyflwyno rwbath fel y feed in tariff i brosiectau cymunedol, nid prosiectau commercial mwy.

"Ma' budd rhain yn mynd ar draws fy nghymuned i a bydda' gallu gwireddu mwy o'r rhain yn ddefnyddiol."

'Budd yn dod i gwmnïau lleol'

O brosiectau bach i rai mwy, mae'r potensial ar gyfer ynni adnewyddadwy yng ngogledd Cymru'n eang a sefydliadau fel M-Sparc yng Ngaerwen ar Ynys Môn yn pontio'r cymunedol a'r cenedlaethol.

Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Cyfarwyddwr M-Sparc: "Yn fwy na dim y cyfleoedd sydd ganddon ni ydy cysylltu llywodraeth, prosiectau ymchwil a chwmnïau yn y gadwyn gyflenwi ynni i wneud yn siŵr bod 'na fudd yn dod i gwmnïau lleol o'r sector yn datblygu yn y rhanbarth.

"Da ni'n ffodus, mae 'na hanes a thraddodiad o ddatblygu ynni yn y rhanbarth. Mae ganddon ni brifysgol sydd efo'r sgiliau.

"Wedyn mae ganddon ni rinweddau yn y tirwedd - oddi ar y môr er enghraifft, mae ganddo ni lanw arbennig - a'r cyfan oll yn gwneud ni'n lle arbennig i ddatblygu ynni adnewyddadwy."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae parc gwyddoniaeth M-Sparc wedi'i sefydlu i gynnig cyfleoedd i fusnesau

Prosiectau mawr fydd yn helpu cyrraedd y targedau ynni glan. Yn hollti barn ers blynyddoedd, mae dyfodol prosiect niwclear Wylfa Newydd ar Ynys Môn yn aneglur.

Yn ôl rhai, mae gan niwclear ran i'w chwarae ond mae Debbie Jones, Swyddog Carbon Isel M-Sparc yn rhybuddio na ddylai hynny fod ar draul ffynonellau eraill.

"Mae'n bwysig iawn i ni gael yr energy mix, cael lot o bethau gwahanol yn digwydd efo technoleg gwahanol yn gweithio," meddai.

"Dwi'n meddwl bod 'na ddyfodol i'r sector niwclear ond hefyd mae 'na ddyfodol i'r prosiectau arall efo gwynt, môr a solar."

'Datblygu cam wrth gam'

Gyda rhai o'r prosiectau mwy, mae 'na bryderon am effaith ar fywyd gwyllt a thirwedd.

Ond yn ôl cwmni RWE Renewables, sy'n ceisio codi fferm wynt arall oddi ar arfordir y gogledd, byddai prosiect Awel y Môr yn gyfle i daclo'r argyfwng hinsawdd a chreu gwaith.

"Byddai'n creu tua 100 o swyddi parhaol a 700 tra 'da ni'n adeiladu," meddai Dafydd Roberts, un o beirianwyr RWE Renewables.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dafydd Roberts yn credu bod cynlluniau adnewyddadwy yn fudd i economïau lleol

"Mae'n dod a pres i'r ardal - tua £80 miliwn mae Gwynt y Môr wedi'i wario ers ei adeiladu, a thua wyth miliwn bob blwyddyn."

"'Da ni'n meddwl bod y safle yma'n wych i adeiladu fferm wynt ac yn meddwl bod hi'n bwysig i wneud hynny i daclo'r argyfwng hinsawdd."

Oddi ar arfordir Ynys Lawd ger Caergybi, mae'r llanw yno gyda'r cryfaf yn Ewrop oherwydd lleoliad y tir a siâp gwely'r môr.

Gobaith un o brosiectau'r ynys ydy defnyddio grym y llanw a'r tonnau i gynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Ond mae prosiect Morlais hefyd wedi denu gwrthwynebiad, gyda rhai yn pryderu am ddyfodol bywyd gwyllt yr ardal.

Yn ôl un o gyfarwyddwyr Morlais, Gerallt Llewelyn, byddai'r prosiect yn symud fesul cam er mwyn sicrhau bod dim niwed yn cael ei wneud.

"Mae'n bwysig iawn manteisio ar yr adnodd yma sydd ganddon ni er mwyn hybu'r economi, cyfarfod anghenion yr argyfwng ynni a hinsawdd 'da ni ynddo fo," meddai.

"Ond hefyd 'da ni angen sicrhau bod ni'n gofalu am fywyd gwyllt dan y dŵr a'r adar ac ati tra 'da ni'n ei wneud o."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gerallt Llywelyn bod Prosiect Morlais yn gweithio i sicrhau dydy bywyd gwyllt ddim yn cael eu niweidio fel rhan o'r cynllun

"Da ni'n datblygu'r safle gam wrth gam. Fyddwn i ond yn symud ymlaen i'r cam nesa' pan 'da ni'n gwybod bod ni ddim yn gwneud niwed i fywyd gwyllt."

Y gobaith maes o law ydy defnyddio ynni gwyrdd o gynlluniau fel Morlais i'w droi yn hydrogen, ac mae 'na fwriad i agor canolfan arbennig ar gyfer hynny yng Nghaergybi yn y blynyddoedd nesaf.

"Mae 'na newidiadau mawr yn digwydd yn y byd ynni ar hyn o bryd ac un o'r gwahaniaethau ydy bod ynni'n dod o lot o wahanol lefydd erbyn hyn," ychwanegodd Gerallt Llewelyn.

"Sut 'da chi'n dod a hwnnw at ei gilydd a troi un ffurf o ynni i mewn i un arall er mwyn sicrhau budd i'r blaned? Mae hydrogen yn bwysig."

"Y gobaith ydy bydd ynni gwyrdd gwbl ddi-garbon o Morlais yn cael ei fwydo i Barc Cybi tu allan i Gaergybi i safle lle bydd o'n cael ei droi yn hydrogen all yrru bysus, loriau ac yn y blaen.

"Mae gwneud y cylch yna'n eithriadol o bwysig pan 'da ni'n edrych at gyfrannu at y newid yma sydd angen digwydd ym myd y sector ynni glan."