'Peryg mawr' i chwaraeon merched yn sgil Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Yr Athro Laura McAllister
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd yr Athro Laura McAllister i dîm pêl-droed merched Cymru

Mae rhybudd bod chwaraeon merched yn wynebu "bygythiad mawr" o ganlyniad i'r argyfwng coronafeirws.

Y bwlch ariannol enfawr rhwng chwaraeon merched a dynion yw'r rheswm am hynny, yn ôl cyn-gadeirydd Chwaraeon Cymru, yr Athro Laura McAllister.

Mae FIFPRO, undeb y chwaraewyr pêl-droed rhyngwladol, wedi rhybuddio y gall llai o arian gael ei fuddsoddi yng ngêm y merched oherwydd y pandemig.

"Does dim yr un fath o arian o ran cytundebau a nawdd i chwaraeon menywod," meddai'r Athro McAllister

"Mae sefydliadau chwaraeon i ferched yn lot mwy bregus na byd chwaraeon y dynion.

"Ac felly mae 'na fygythiad mawr i gemau fel pêl-droed a rygbi menywod a phob math o gampau.

"Mae 'na beryg mawr i chwaraeon menywod ar ôl coronafeirws."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae rowndiau terfynol pencampwriaeth Ewro 2021 y merched wedi eu gohirio oherwydd y pandemig

Colli momentwm

Daw'r rhybudd am y bygythiad ar adeg pan fu twf ym mhoblogrwydd chwaraeon merched, yn enwedig pêl-droed.

Yn ogystal â'r effaith economaidd, mae Laura McAllister yn ofni y gall coronafeirws fod yn ergyd i'r twf hwnnw.

"Mae pawb yng Nghymru wedi gweld pêl-droed Cymru â'r tîm rhyngwladol yn gwneud mor dda," ychwanegodd Yr Athro McAllister.

"Dyna'r perygl yn awr achos mae pobl yn meddwl 'a fydd y momentwm yn cario 'mlaen?'

"'Da ni i gyd yn gwybod bod e'n anodd iawn ar ôl crisis fel yna bod pethau'n mynd yn ôl at y sefyllfa cyn y feirws.

"Fi'n pryderu am y dyfodol achos fi'n gweld timau fel Reading a Bristol City wedi rhoi y menywod ar furlough a be fydd yn digwydd ar ôl y crisis."

Er ei phryderon am y dyfodol, mae McAllister yn gobeithio y gall yr argyfwng arwain at newidiadau mwy positif yn y byd chwaraeon.

"Mae 'na siawns hefyd i ail-lunio chwaraeon yn gyffredinol i roi lle mwy i chwaraeon menywod," meddai, "a cael mwy o fenywod ar y cyrff llywodraethol ac yn y blaen i gael lleisiau gwahanol a sicrhau bod chwaraeon menywod yn cael ei glywed."