Rownd ragbrofol Cwpan FA Lloegr: Wrecsam 2-0 Marine
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam trwodd i rownd gyntaf Cwpan FA Lloegr yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Marine ar y Cae Ras nos Fawrth.
Roedd y gêm gyntaf rhwng y ddau dîm wedi gorffen 1-1 ddydd Sadwrn, gan olygu y bu'n rhaid ailchwarae er mwyn penderfynu pwy fyddai'n mynd trwodd o'r bedwaredd rownd ragbrofol.
Aeth Wrecsam ar y blaen wedi 21 munud, gyda Paul Mullin yn rhwydo a digalonni'r gwrthwynebwyr o Lannau Mersi, sydd tair adran yn is na'r Cymry.
Dyblwyd mantais y tîm cartref ar ddechrau'r ail hanner wrth i Mullin ychwanegu ei ail gôl o'r noson er mwyn selio'r fuddugoliaeth.
Bydd Wrecsam yn herio Harrogate Town o Adran Dau oddi cartref yn rownd gyntaf y gystadleuaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2021