Y Bencampwriaeth: Fulham 2-0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Fe gollodd Caerdydd am y seithfed gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers 1934 i gynyddu'r pwysau ar y rheolwr Mick McCarthy.
Fulham - sy'n ail yn y Bencampwriaeth - oedd yn fuddugol o 2-0 yn Craven Cottage nos Fercher, diolch i goliau gan Tom Cairney ac Aleksandar Mitrovic.
Yn groes i'r disgwyl, roedd hi'n ddi-sgôr ar yr egwyl gyda'r ddau dîm yn dod yn agos yn yr hanner cyntaf.
Dychwelodd yr eilydd Cairney ar ôl bron i flwyddyn allan gydag anaf i roi Fulham ar y blaen gydag ergyd hyfryd.
Ychwanegodd Mitrovic ail y tîm cartref wrth i Gaerdydd gwympo i'r 21ain safle - un safle a dau bwynt yn glir o safleoedd y cwymp.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2021