'Seland Newydd yw enillwyr clir cytundeb masnach'

  • Cyhoeddwyd
Defaid Seland NewyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n debyg y bydd Seland Newydd yn gallu gwerthu mwy o gig oen y wlad i'r DU dan y cytundeb

Mae cynrychiolwyr amaeth yng Nghymru wedi mynegi pryderon yn dilyn cyhoeddiad llywodraeth yDU eu bod wedi cyrraedd cytundeb masnach rydd gyda Seland Newydd.

Bydd y cytundeb amlinellol yn torri tollau allforio yn raddol, ac yn sicrhau cyfleoedd i bobl o'r DU ym marchnad swyddi Seland Newydd, yn ôl Prif Weinidog y DU, Boris Johnson.

Ond mae undebau amaeth yn dweud y bydd yn niweidiol i'r sector, gyda'r potensial o arwain at ddirywiad mewn safonau bwyd.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd swyddogion yn craffu ar fanylion y cytundeb "i weld pa effeithiau y bydd yn eu cael ar Gymru".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dan y cytundeb, sy'n dilyn 16 mis o drafodaethau, bydd tariffau'n cael eu torri'n raddol ar nwyddau rhwng y ddwy wlad, ac fe fydd hi'n haws i bobl broffesiynol, fel cyfreithwyr a phenseiri, allu gweithio yn Seland Newydd.

Mae amcangyfrifon y llywodraeth ei hun yn awgrymu na fydd yn arwain at dwf yn economi'r DU. Canran fechan iawn - llai na 0.2% - o holl fasnach y DU yw'r fasnach gyda Seland Newydd, ond mae Seland Newydd yn debygol o elwa trwy allu gwerthu mwy o gig oen.

Gobaith Llywodraeth San Steffan yw y bydd y cytundeb, a'r un diweddar gydag Awstralia, yn gam at gael ymuno â phartneriaeth ehangach sy'n cynnwys Awstralasia, Canada, Mecsico a Japan, ymhlith eraill.

'Seland Newydd yw'r enillwyr'

Mae cynrychiolwyr amaeth Cymru'n poeni y bydd gwledydd eraill yn disgwyl telerau'r un mor "hael" ag sydd wedi eu cytuno gyda Seland Newydd ac Awstralia yn y dyfodol wrth drafod masnachu gyda'r DU.

Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru (UAC), bydd Seland Newydd yn cael allforio 30% yn fwy o gig oen i'r DU yn ddi-doll ym mlwyddyn gyntaf y cytundeb, 44% yn fwy wedi pum mlynedd a dim tariffau o gwbl wedi 15 mlynedd.

Bydd hefyd yn bosib i'r wlad allforio canrannau cynyddol o gig eidion, menyn a chaws i'r DU.

"Mae'n glir mai'r enillwyr yn y cytundeb yma fydd Seland Newydd," meddai Llywydd UAC, Glyn Roberts. "Mae'n eu galluogi i gynyddu eu hallforion bwyd i'r DU, sy'n fygythiad mawr i ffermwyr Cymru a'r DU ac i ddiogelwch ein bwyd."

Ychwanegodd: "Mae ffigyrau Llywodraeth y DU ei hun yn dangos bod buddion economaidd y cytundeb yma i'r DU yn ficrosgopig. Dydy hynny ddim yn syndod o gofio bod poblogaeth Seland Newydd yn llai na'r Alban."

'Dim buddion amlwg i Gymru'

Dywedodd llywydd undeb NFU Cymru, John Davies bod y cytundeb dros nos yn ei adael "gyda phryder mawr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".

Mae'r cyhoeddiad hefyd, meddai, "yn gadarnhad pellach o agenda rhyddfrydoli masnach Llywodraeth y DU gyda rhai o allforwyr bwyd-amaeth mwya'r byd".

Mae'r agenda hwnnw, mae'n dweud "â photensial i fygwth amaeth Cymru'n ddifrifol mewn cyfnewid am ddim buddion amlwg, hyd y gwelwn ni".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynrychiolwyr sector amaeth Cymru'n pwysleisio'r angen am chwarae teg i ffermwyr Cymru

Mae "cytundebau masnach rydd mor hael yn bygwth creu marchnad annheg", medd prif weithredwr Hybu Cig Cymru, Gwyn Howells, ac yn "gosod cynsail i wledydd eraill fynnu mynediad dirwystr tebyg i farchnad Prydain".

Er bod Seland Newydd wedi allforio llai o gig oen i'r DU yn ddi-doll nag sy'n cael ei ganiatáu eisoes yn y blynyddoedd diwethaf, mae Mr Howells yn rhybuddio bod "cyflenwad diderfyn... yn y dyfodol yn fygythiad posib os bydd unrhyw darfu ar eu marchnadoedd allforio eraill yn Asia ac America.

"O ran cig eidion, bydd y fargen hon yn golygu cynnydd ar unwaith mewn cystadleuaeth fyd-eang ar gyfer cynhyrchwyr domestig."

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae Seland Newydd yw 50fed marchnad fwyaf Cymru o ran allforion a 60fed o ran mewnforion. Roedd y fasnach nwyddau rhwng y ddwy wlad yn £38.4m yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021.

Aros am fanylion y cytundeb

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething eu bod "wedi bod mewn cysylltiad â Llywodraeth y DU drwy gydol y broses negodi".

Drwy'r broses honno, meddai, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan barn "yn gyson... na ddylai cytundebau masnach y DU danseilio'n huchelgeisiau ein hunain na'n deddfwriaeth ddomestig yma yng Nghymru".

Dywedodd nad ydyn nhw'n gwybod beth yw manylion terfynol y cytundeb eto, ond bod yr holl lywodraethau datganoledig yn parhau i godi pryderon am effeithiau posib cynnig mwy o fynediad i'r farchnad amaethyddol.

"Bydd fy swyddogion yn mynd ati yn awr i graffu ar fanylion y cytundeb i weld pa effeithiau y bydd yn eu cael ar Gymru," meddai.

Pynciau cysylltiedig