'Dyfodol cefn gwlad yn y fantol' gyda chytundeb Awstralia

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Defaid mewn marchnad da byw

Mae llywodraethau'r DU ac Awstralia wedi cytuno ar gytundeb masnach newydd, ond parhau mae'r pryder ymhlith ffermwyr Cymru.

Mae arweinwyr y sector amaeth yng Nghymru wedi galw am sicrwydd i "beidio â derbyn safonau is" o ran y modd mae anifeiliaid yn cael eu magu.

Pryder ffermwyr yw bod eu costau cynhyrchu yn uwch ac y bydd y gystadleuaeth yn un annheg, ac mae rhybudd bod "dyfodol cefn gwlad a bywyd cefn gwlad yn y fantol".

Dywed Downing Street y bydd y cytundeb newydd yn sicrhau y bydd modd gwerthu nifer o nwyddau yn rhatach i Awstralia, fydd o fudd i 450 o gwmnïau o Gymru sydd eisoes yn allforio i'r wlad.

'Y gystadleuaeth ddim yn deg'

Dywedodd Glyn Roberts, llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, nad ydynt yn "erbyn masnach newydd 'efo unrhyw wlad ond mae'n bwysig edrych ar y safon".

Ar raglen Dros Frecwast, dywedodd: "Os nad ydyn nhw yn cael eu magu ar yr un safon dydy'r gystadleuaeth ddim yn deg yng nghyd-destun mewnforio y cig o safon is na beth sydd ganddon ni yn y wlad yma.

"Mae'n anodd mewn byd cystadleuol… os byddan ni yn cadw'r safon yna a chig eilradd i'r safon yna yn dod i mewn bydd 'na demtasiwn mawr i'r prynwr ein cynnyrch ni i brynu y rhataf."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pryder Undeb Amaethwyr Cymru yw y bydd y gystadleuaeth gydag chynnyrch o Awstralia yn annheg

Mae'r cytundeb gydag Awstralia yn cael ei weld fel carreg filltir bwysig, oherwydd hwn fyddai'r cytundeb cyntaf i gael ei lunio'n llwyr ar ôl Brexit.

Mae cytundebau eraill sydd wedi eu harwyddo ers Brexit yn seiliedig ar gytundebau tebyg gafodd eu llunio yn wreiddiol gan yr Undeb Ewropeaidd.

Dywed Mr Roberts ei fod yn poeni y gallai'r cytundeb gydag Awstralia arwain at golli'r farchnad Ewropeaidd yn llwyr.

"Yn sicr 'da ni ddim isie addasu yn y ffordd o fagu anifeiliaid ac edrych ar ôl yr amgylchfyd a thynnu safon lawr er mwyn addasu i fedru bod mewn cystadleuaeth 'efo Awstralia.

"Pe bai ni yn mynd lawr y ffordd yna mae 'na gwestiwn mawr wedyn a fydden ni yn colli y farchnad sydd yn llawer mwy o werth i ni yng Nghymru - y farchnad Ewropeaidd."

'Bywyd cefn gwlad yn y fantol'

Ychwanegodd: "Mae dyfodol cefn gwlad a bywyd cefn gwlad yn y fantol yn fa'ma.

"A be' dwi yn boeni wrth osod y cytundeb yma gydag Awstralia, maen nhw yn gosod cynsail agored i wledydd eraill a lle mae hyn yn mynd i stopio?"

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, wedi beirniadu'r Prif Weinidog am "danseilio hyfywedd tymor-hir ein sector amaethyddol".

Mae Plaid Cymru yn pryderu bod ffermio yn Awstralia yn gweithredu ar raddfa na all ffermwyr Cymru gystadlu ag ef, gan "ddefnyddio dulliau na fyddai'n cydymffurfio â safonau amgylcheddol a lles anifeiliaid uchel cynhyrchu yn y DU".

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Liz Saville Roberts fod y cytundeb yn "gosod cynsail peryglus at y dyfodol"

Dywedodd Liz Saville Roberts AS: "Er bod cig eidion a chig oen Cymru ymysg y mwyaf cynaliadwy yn y byd, mae Llywodraeth y DU wedi cyflymu cytundeb fydd yn gweld cynnyrch a fagwyd i safonau amgylcheddol is o lawer yn cael eu gludo dros y môr neu'r awyr hanner ffordd rownd y byd i'n marchnadoedd ni.

"Mae hyn yn mynd yn hollol groes i nod honedig Boris Johnson o arwain y byd trwy weithredu ar hinsawdd.

"Yn waeth byth, mae'r cytundeb hwn yn gosod cynsail peryglus at y dyfodol. Trwy ildio i amodau Awstralia, mae Llywodraeth y DU wedi agor y drws i gynhyrchwyr cig diwydiannol enfawr megis Brasil ac UDA ddisgwyl amodau ffafriol tebyg."

Mae Ysgrifennydd Masnach y DU Liz Truss wedi amddiffyn y cytundeb gan ddweud y bydd y llywodraeth "yn gwneud yn siŵr ym mhob un cytundeb rydym yn ei wneud y bydd amaeth ym Mhrydain yn ffynnu".

Dywedodd y byddai'r cytundeb yn dod â chyfleoedd newydd i fusnesau yn y DU.

"Mae'n gytundeb sy'n cael gwared ar dollau ar nwyddau o Brydain, yn dod â chyfleodd newydd i'n cwmnïau technoleg ac i gwmnïau sy'n darparu gwasanaethau."

Pynciau cysylltiedig