'Peidiwch â meddwl bo' fi yn erbyn y Dolig. Dwi ddim yn Grinch!'
- Cyhoeddwyd
Ar ôl bod yn siopa yn ddiweddar, cafodd Geraint Scourfield syndod bod mis Hydref yn cael ei gysylltu gyda chyfnod y Nadolig i rai perchnogion siopau.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae o'n pwysleisio nad yw'n casáu'r Nadolig... ond oes rhaid i'r peth ddechrau mor gynnar?!
Dwi ddim yn Grinch!
Oes rhaid i ni ddechrau gweld pethau Nadolig ar y silffoedd mor gynnar?
Oes rhaid i ni glywed cerddoriaeth Nadoligaidd tra 'da ni'n crwydro'r stryd fawr yn ystod wythnos gyntaf mis Hydref?
Ydw i'n gywir i feddwl bo'r Nadolig yn dod yn fwyfwy cynnar bob blwyddyn?
Gyda fy marf hir llwyd, mae rhai pobl hyd yn oed yn dweud y bysa'n hawdd i mi weithio fel Siôn Corn.
Ond dydw i ddim yn hoffi i'r Nadolig ddechrau cyn bod ni wedi cael y cyfle i fwynhau noson Calan Gaeaf efo'r plant, diolch yn fawr iawn.
Dwi isio gweld y clociau'n troi yn ôl cyn i mi gychwyn meddwl am y gacen Nadolig a'r tinsel.
'Mynd dros ben llestri'
Dwi'n gwybod bod 'na ryw gystadleuaeth rhwng siopau'r stryd fawr i drio ennill ein harian ni, ond yn fy marn i, mae'n chwalu unrhyw deimladau sy' gen i tuag at Nadolig cyn i mi ddechrau cynhyrfu o gwbl.
Ar ddiwedd y dydd pwy sydd isio prynu danteithion Nadolig os ydyn nhw wedi dyddio erbyn canol mis Tachwedd?
Mae 'na rai pethau 'da ni angen prynu cyn mis Rhagfyr wrth gwrs, calendrau Adfent er enghraifft. Mae hefyd ychydig o bobl sydd isio paratoi yn gynnar er mwyn gwneud yn siŵr bod popeth yn ei le.
Mae fy ngwraig yn aml yn casglu anrhegion bach wythnosau ymlaen llaw, yn enwedig pan mae hi'n gweld bargeinion. Mae pobl yn trio lleihau'r brys munud olaf, ac yn trio lleihau'r straen. Dwi'n hapus gyda hynny, dim problem o gwbl.
Os 'dach chi isio dechrau berwi ysgewyll ar y cyntaf o fis Rhagfyr, ewch amdani, mae'n iawn gyda fi.
Y broblem sy' gen i yw'r cwmnïau mawr sy'n mynd dros ben llestri. Maen nhw'n gwthio'r Nadolig yn ddidrugaredd i lawr ein gyddfau am fisoedd cyn y diwrnod mawr, i drio gwasgu pob ceiniog allan o'n pocedi ni.
Maen nhw wedi gwasgu'r hud allan o'r ŵyl. Does 'na ddim byd ar ôl ond elw.
Methu cadw cyfrinach...
Mae rhaid i ni feddwl am y plant wrth gwrs.
Mae'n bron yn amhosib cadw'r holl gyffro i fynd trwy fis Rhagfyr, heb sôn am dros dri mis cyfan. Sut ydan ni fel rhieni yn mynd i gadw pethau yn dawel am amser mor hir â hynny? Dydw i methu cadw cyfrinach dros nos fel arfer, heb sôn am fisoedd!
Tydi o ddim yn deg arnyn nhw, a tydi o ddim yn deg arnom ni chwaith.
Efallai fy mod i'n cofio'r hen ddyddiau yn wahanol ond roedd y pythefnos yn arwain at Nadolig yn anhygoel, ac roedd pawb a'u nain yn hapus ac yn glên.
Ond ydw i'n cofio pethau fel oedden nhw go iawn?
Os dwi'n cofio'n iawn oedd fy mam arfer talu trwy ei thrwyn, fis ar ôl mis ar gyfer un o'r hamperi mawr 'na, er mwyn trio darparu'r Nadolig gorau posib i ni. (A, sori Mam, dwi dal ddim yn licio prŵns er gwaethaf eich holl ymdrechion chi.)
Efallai tydi pethau ddim wedi newid cymaint â dwi'n feddwl. Efallai mai fi ydy'r unig un sy' wedi newid yn fy henaint.
Efallai dwi'n fwy tebyg i'r Grinch wedi'r cwbl.