Y Bencampwriaeth: Birmingham City 2-1 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Chwaraeodd Troy Deeney (mewn glas) ran allweddol yn y fuddugoliaeth i BirminghamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Troy Deeney (mewn glas) ran allweddol yn y fuddugoliaeth i Birmingham

Sgoriodd Troy Deeney un gôl a chreu un arall wrth i Birmingham City guro Abertawe 2-1 yn y Bencampwriaeth.

Rhoddodd y capten Deeney ei dîm ar y blaen yn fuan yn yr ail hanner.

Roedd Abertawe yn credu eu bod wedi ennill pwynt pan sgoriodd Michael Obafemi ei gôl gyntaf i'r clwb.

Ond fe sgoriodd tîm Lee Bowyer gôl hwyr haeddiannol i ennill y gêm, diolch i Riley McGree.

Mae tîm Russell Martin yn aros yn 15fed, gyda Birmingham bwynt a dau le yn is yn y tabl.