Y Gynghrair Genedlaethol: Barnet 0-3 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Aaron HaydenFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Aaron Hayden yn penio ail gôl Wrecsam brynhawn Sadwrn

Mae ymgyrch Wrecsam yn ôl ar y trywydd iawn yn y Gynghrair Genedlaethol ar ôl buddugoliaeth hawdd yn Barnet.

Manteisiodd Paul Mullin ar gamgymeriad amddiffynnol i roi Wrecsam ar y blaen gyda'i seithfed gôl o'r tymor.

Dyblodd Aaron Hayden y fantais o dafliad hir Ben Tozer.

Sgoriodd Shaun Brisley o gic rydd Jordan Davies i selio'r fuddugoliaeth.