Brexit: Dwsinau o longau o Iwerddon 'yn osgoi Cymru bellach'
- Cyhoeddwyd
Mae dwsinau o lwybrau fferi newydd wedi cael eu sefydlu rhwng Iwerddon a chyfandir Ewrop ers Brexit, sy'n osgoi Cymru'n gyfan gwbl.
Dywedodd gweinidog materion tramor Gweriniaeth Iwerddon, Simon Coveney fod 44 llwybr uniongyrchol rhwng Iwerddon a'r Undeb Ewropeaidd bellach.
"Byddai'r ffigwr yna wedi bod yn llai na dwsin yr adeg yma llynedd," meddai.
Dywedodd Llywodraeth y DU fod effaith pandemig Covid yn golygu ei bod hi'n rhy gynnar i asesu'r berthynas fasnachu newydd gyda'r UE.
'Cwmnïau wedi cael digon'
Dywedodd Mr Coveney wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales fod gallu croesi dros y tir rhwng Caergybi a Dover wedi bod yn rhan hanfodol o gludo nwyddau rhwng Iwerddon ac Ewrop.
Mae mynd ar y fferi yn uniongyrchol i Ffrainc ychydig yn arafach a drytach na chroesi Môr Iwerddon ac yna gyrru drwy Gymru a Lloegr, cyn croesi o Dover i Calais.
Ond nawr mae teithio'n syth i Ffrainc yn golygu osgoi'r gwaith papur a gwiriadau ychwanegol sydd wedi dod yn sgil Brexit.
"Roedden ni'n gwybod y byddai trafferthion," meddai Mr Coveney. "Byddai gwaith papur, biwrocratiaeth, oedi, ciwiau er mwyn croesi dros y tir."
Dywedodd fod Iwerddon wedi gwerthu mwy o nwyddau i'r DU eleni na llynedd, ond fod llai yn "dod o'r cyfeiriad arall".
"Mae cwmnïau wedi cael digon," ychwanegodd. "Iddyn nhw mae angen sicrwydd fel bod modd cynllunio at y dyfodol."
Wrth fynychu'r Fforwm Cymru-Iwerddon cyntaf ac agor Conswliaeth Iwerddon yng Nghaerdydd, dywedodd Mr Coveney fod y berthynas rhwng y ddwy wlad yn parhau i fod yn un pwysig.
Cymru yw'n cymydog agosaf ni o ran daearyddiaeth, ac mae ganddon ni hanes hir o gydweithio, cyfeillgarwch, cystadleuaeth ar y meysydd chwarae - ond yn bwysicach, 'dyn ni'n dod ymlaen yn dda," meddai.
'Rhy gynnar i ddweud'
Dros yr wythnosau nesaf mae disgwyl rhagor o drafodaethau rhwng y DU a'r UE er mwyn ceisio symleiddio'r rheolau ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon ar symud nwyddau rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon.
Dywedodd Llywodraeth y DU fod cynnydd "sylweddol" wedi bod yn llwyth y nwyddau sydd wedi bod yn symud drwy borthladdoedd Cymru ers mis Ionawr, a'u bod am eu gweld yn ffynnu.
"Mae effaith pandemig Covid a chyfyngiadau ar draws y byd, gan gynnwys Ewrop, wedi effeithio ar fasnach a golygu llai o alw," meddai llefarydd.
"Felly mae'n rhy gynnar i ddod i gasgliadau cadarn ar effaith ein perthynas fasnachu newydd gyda'r UE."
Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Ewropeaidd nad oedden nhw am wneud sylw ar y trafodaethau ar hyn o bryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2021