'Gallen ni gyd fod yn wrachod'

  • Cyhoeddwyd
Llun o Wrachod Llanddewibrefi gan Efa LoisFfynhonnell y llun, Efa Lois
Disgrifiad o’r llun,

Un o ddarluniau Efa Lois o'i chyfres o bosteri Gwrachod Cymru

Gyda dim ond 'chydig o nosweithiau i fynd tan Calan Gaeaf, mae gwisgoedd a delweddau o wrachod yn amlwg yn y siopau ac ar y teledu.

Yma yng Nghymru mae gwrachod yn rhan fawr o'n llên gwerin gyda straeon yn dyddio'n ôl ganrifoedd, ond mae'r wrach yn rhan o'n diwylliant cyfoes ni hefyd mewn nofelau, ffilmiau, gwaith celf a hyd yn oed podlediadau.

Dwy sydd â diddordeb yn yr hyn yw hi i fod yn wrach yw'r arlunydd Efa Lois, a'r podledwraig Mari Elen. Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda'r ddwy i drafod beth yw gwrach y dyddiau hyn.

"I mi, yn tyfu fyny yn gwylio pethau fel Charmed, Buffy a Sabrina the Teenage Witch, roedd gwrachod yn rhoi lle i chdi fod yn wahanol ond erbyn heddiw y ffordd dw i'n gweld gwrach ydy person sydd yn dallt ac yn 'nabod gwerth nhw eu hunain, sydd ddim ofn bod yn nhw eu hunain a sy'n bod yn driw iddyn nhw eu hunain."

Dyna ddiffiniad Mari Elen, cyflwynydd y podlediad Gwrachod Heddiw, o wrach fodern.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwrachod ar y teledu: Sabrina the Teenage Witch, y chwiorydd yn Charmed a Willow yn Buffy the Vampire Slayer

Ond wrth edrych ar straeon llên gwerin, a chofnodion o bobl go iawn, dydy'r disgrifiad yna ddim ymhell o sut bobl fyddai'r gwrachod hanesyddol wedi bod 'chwaith.

Meddai Efa Lois, sydd wedi gwneud llawer o waith ymchwil ar gyfer ei phrosiect Gwrachod Cymru a phrosiect Drudwen: "Y peth diddorol yw cyn lleied mae'r menywod 'ma yn y llên gwerin wedi'i wneud i gael eu cyhuddo o fod yn wrachod. Mae rhai ohonyn nhw jest wedi edrych ar rywun mewn ffordd bach yn weird.

"Beth sydd wedi dod i'r amlwg i fi, a fi'm yn gwybod a yw e wedi dod i'r amlwg i bobl eraill hefyd, yw gallen ni gyd fod yn wrachod. Nid yn y synnwyr ein bod ni'n dilyn gwrachyddiaeth ond yn y synnwyr o gallen ni gyd fod wedi ypsetio'r person anghywir, cael ein cyhuddo o fod yn wrach ac wedyn bod yr hanes 'ma i gyd yn tyfu o'n cwmpas ni."

Erbyn hyn, mae bod yn driw i chi eich hun yn cael ei ddathlu gan fwyaf, ond fel mae Mari yn egluro nid fel 'na oedd hi i ferched ers stalwm.

Meddai: "Os ti'n mynd yn ôl i hanes pobl oedd yn cael eu cosbi, dyna oedden nhw: pobl oedd yn bod yn nhw eu hunain ond oedd ddim yn cydymffurfio efo be' oedd cymdeithas a dynion gwyn, strêt isio iddyn nhw fod."

Gweld hud a lledrith

Ond, er mwyn bod yn wrach onid oes rhaid arfer pethau goruwchnaturiol, gweithredu hud a lledrith neu wneud gwaith y diafol?

Dywedodd Efa: "Mae'r gwrachod sy'n ymddangos gyda broomsticks, dim ond dwy neu dair ohonyn nhw sy'na o'r 90 dw i wedi'u casglu cyn belled. A does dim un ohonyn nhw mewn het ddu gyda phig.

"Yn chwedlau gwrachod Cymru mae'r rhan fwyaf [o'r ystrydebau goruwchnaturiol] yn ymwneud â newid pobl mewn i sgwarnogod, neu newid eu hunain yn sgwarnogod, mae 'na gwpl o wrachod sy'n newid mewn i gathod neu gadnoi."

Ffynhonnell y llun, Mari Elen
Disgrifiad o’r llun,

Mari Elen

Meddai Mari, sy'n ystyried ei hun yn wrach gyfoes: "Mae 'na hud a lledrith o'n cwmpas ni gyd, dw i'n meddwl, a mae gwrachod yn gallu gweld yr hud a lledrith dydy pobl eraill methu ei weld. Maen nhw'n dallt natur, a sut mae natur yn cynnig yr hud a lledrith 'na. Mae'n rhaid i ti goelio ynddo fo i'w weld o.

"Dw i methu coelio mai dyna oedd pobl yn ddefnyddio i gosbi'r bobl 'ma - eu bod nhw'n gwneud gwaith i'r diafol a phethau fel, mae'r ddynes 'na yn byw ar ei phen ei hun a mae dy wartheg di'n marw felly hi sydd wedi gwneud. Oedd y pethau oeddan nhw'n ei ddweud yn hollol hurt."

Mae posteri Efa o wrachod Cymru yn hynod boblogaidd, ac mae'r syniad o wrach bellach yn cael ei ddathlu yn enwedig gan ffeministiaid. Beth yw'r rheswm am hyn tybed? Ac a oes gwahaniaeth mawr rhwng gwrachod ddoe a heddiw?

Ffynhonnell y llun, Efa Lois
Disgrifiad o’r llun,

Casgliad o bosteri Efa Lois o Wrachod Cymru

Wrth sôn am boblogrwydd ei chasgliad Gwrachod Cymru, casgliad sy'n darlunio'r gwrachod a sut fydden nhw'n gweld y byd, dywedodd Efa: "Wrth wneud ymchwil y chwedlau, beth ddaeth i'r amlwg i mi oedd pa mor dywyll ydy diweddglo rhan fwyaf o'r straeon.

"Ond dw i'n cymryd yr elfen yna i ffwrdd, achos dw i'n meddwl mai'r fenyw dw i'n dathlu, neu'r unigolyn yn y darlun a'i stori hi, nid stori y person wnaeth ei lladd hi.

"Gyda llên gwerin 'ryn ni dim ond yn gwybod beth sydd wedi cael ei basio i lawr felly maen amhosib i ni wybod sut fenyw oedd y fenyw wreiddiol. Ond dw i'n meddwl fod y rhan fwyaf o'r gwrachod yn cael eu gweld fel rhyw fath o outsiders yn y straeon ac maen nhw'n annibynnol iawn yn sgil hynny. A dw i'n credu bod rhywbeth i'w gymryd o hynny."

Dathlu bod yn wahanol

Dywedodd Mari: "Mae pobl yn fwy parod i dderbyn pethau a dathlu pwy ydyn nhw dyddiau yma, dw i'n meddwl.

"Mae 'na rywbeth reit cŵl am gael troi rhywbeth sydd wedi cael ei ddweud fel rhywbeth negyddol yn enwedig yn erbyn merched, a'i wneud o'n rhywbeth positif a dathlu'r peth, ac yn hytrach na gadael nhw fod yn eiriau mae pobl wedi'u defnyddio i'n sarhau ni dros y blynyddoedd, ein bod ni'n eu diffinio nhw i feddwl be 'dan ni isio.

"Felly dydy gwrach ddim yn gorfod bod yn beth drwg. Yr agwedd sydd wedi newid, nid y cysyniad."

Disgrifiad o’r llun,

Gwrachod mwyaf adnabyddus Cymru? Rhai o lyfrau criw Gwlad y Rwla

Felly pa wrach ffuglennol neu hanesyddol yw'r gorau ganddyn nhw?

"O fewn ffuglen, Willow o Buffy the Vampire Slayer," meddai Mari. "Roedd hi'n gymeriad perffaith oedd yn dangos y galli di fod yn berson cryf a phwerus ond hefyd bod chdi ddim fel 'na drwy'r adeg a bod pethau yn gallu effeithio arna chdi.

"Ond fedra i ddim peidio sôn am Rala Rwdins a Gwlad y Rwla. Mae o'n fyd sydd wedi'n siapio i. O'n i'n hollol obsessed efo Gwlad y Rwla yn tyfu i fyny."

Dywedodd Efa: "Un o'r straeon sydd wedi stico gyda fi yn Gwrachod Llanddewibrefi. Maen nhw'n ddwy wrach sy'n mynd i'r eglwys ac yn cymryd y cymun ond ddim yn bwyta'r bara. Maen nhw'n cadw'r bara dan eu tafodau nhw. Ar ôl yr oedfa, maen nhw'n mynd allan ac yn bwydo'r bara 'ma i lyffant.

"Yna mae'r stori'n dweud fod y diafol wedi ymddangos ar ffurf llyffant ac mai dyna pwy sydd wedi bwyta'r bara. Mae hi'n stori wahanol iawn i'r straeon sydd ganddon ni yn y casgliad yma yng Nghymru."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig