Casglu £500,000 mewn pythefnos i achub tafarn Cerrigydrudion
- Cyhoeddwyd
Mae pobl Uwchaled wedi cyfrannu dros £500,000 mewn tua pythefnos i brynu Tafarn y Llew Gwyn yng Ngherrigydrudion fel tafarn gymunedol.
Roedd unig dafarn y pentref ar y farchnad ers pum mlynedd, ac roedd prynwr posib yn ystyried ei dymchwel a chodi fflatiau ar y safle.
Cynigodd bobl y pentref ddigon o arian i brynu'r dafarn cyn hyd yn oed gwrdd i drafod y fenter i'w hachub.
Mae'r gymuned yn bwriadu ail-agor y dafarn ddechrau mis Rhagfyr.
Ymysg cwsmeriaid y dafarn flynyddoedd yn ôl oedd y cyn-brif weinidog David Lloyd George, ac un o'r cyn-berchnogion oedd y diddanwr Ronnie Williams - un hanner o'r enwog Ryan a Ronnie.
Lansiwyd y fenter yn dilyn sôn am droi'r dafarn yn fflatiau, ac roedd yr ymateb yn "anghredadwy", meddai cadeirydd y grŵp llywio, Dr Dermot Norton.
Roedd rhai yn cynnig £100,000 yr un i helpu achub y dafarn, meddai'r cyn-feddyg teulu.
"Penderfynon ni ledaenu'r peth a chreu cwmni," dywedodd Dr Norton, ac roedd modd i bobl yr ardal brynu cyfranddaliadau yn y cwmni am £5,000 yr un.
Mae 65 o gyfranddalwyr, gyda rhai yn berchen mwy nag un.
I'r rheiny doedd ddim am dalu £5,000, roedd modd ariannu ffenest er cof am rywun.
Gan fod y dafarn mewn ardal gadwraeth ac mae'n rhaid i'r 47 o ffenestri fod mewn steil arbennig, mae eu hadnewyddu yn golygu cost sylweddol.
"Teimlon ni fod angen i ni wneud rhywbeth, achos doedden ni methu colli'n unig dafarn ni, ond dwi ddim yn credu y gwnaeth unrhyw un ddisgwyl y fath ymateb," meddai Owain Roberts, aelod o bwyllgor y Llew Gwyn.
"Mae'n ardal wledig ond mae'n ardal weddol lwyddiannus," meddai, gyda llawer o fusnesau bach lleol, "felly 'dwi'n meddwl fod pawb wedi bod yn fodlon cyfrannu ac achub y dafarn".
Dywedodd fod yr ymateb yn adlewyrchu'r ymdeimlad cryf o gymuned yng Ngherrigydrudion.
Cododd y gymuned ddigon o arian i adnewyddu'r dafarn, ac mae criw o wirfoddolwyr wrthi'n ei hadnewyddu er mwyn agor cyn y Nadolig.
"Mae'r hogiau wedi bod yn brysur iawn yn tynnu waliau i lawr, ac mae'r lle wedi newid yn andros o dda - mae'r lle yn newid bob penwythnos," meddai un o'r gwirfoddolwyr, Jeff Paden.
Mae'r dafarn wedi bod ar gau ers dechrau'r cyfnod clo ym Mawrth 2020.
Ond y nod ydy gwneud y Llew Gwyn yn ganolbwynt i'r ardal unwaith eto, yn ôl un arall sy'n rhan o'r fenter.
"Y nod ydy ei gael o'n le lle mae pawb yn gallu dod, cymdeithasu, cael diod," meddai Elwen Roberts.
"Ond hefyd bod o'n fan cyfarfod i bobl, yn enwedig ieuenctid yr ardal - maen nhw'n gorfod teithio o 'ma er mwyn dod at ei gilydd i gael gêm o pŵl, neu jyst sgwrs."
Gwesty oedd y Llew Gwyn yn y gorffennol, a'r gobaith ydy codi digon o arian o'r dafarn i agor ystafelloedd yno unwaith eto.
"Mae 'na 12 ystafell wely yma, felly 'dan ni'n gobeithio yn y blynyddoedd i ddod fydd o'n westy a bod y Llew Gwyn wedi dod yn ôl i beth oedd o flynyddoedd yn ôl."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Awst 2021
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2021