Cymuned am geisio prynu Tafarn Dyffryn Aeron
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch wedi dechrau yng Ngheredigion i godi arian er mwyn prynu tafarn yn Nyffryn Aeron ar gyfer y gymuned.
Y gobaith yw prynu'r Vale of Aeron yn Ystrad Aeron ger Felinfach, sydd ar werth am £325,000, cyn mis Hydref a'i rhedeg fel cwmni cydweithredol.
Roedd yna gyfarfod yr wythnos hon gyda chynrychiolwyr clybiau a chymdeithasau lleol i weld os oedd yna ddigon o ddiddordeb mewn ceisio prynu'r adeilad.
Mae pwyllgor nawr yn bwrw ymlaen i ddechrau'r broses o godi arian trwy werthu cyfranddaliadau i'r cyhoedd.
'Canolfan answyddogol'
"Ma'r dafarn wedi bod ar werth ers sbel," medd un o'r ymgyrchwyr, Iwan Thomas.
"Mae 'di bod yn yr un teulu ers sawl cenhedlaeth, ond ma' nhw wedi rhoi'r gorau iddi ryw bedair, bum mlynedd yn ôl.
"Mae 'di bod dan denantiaeth ers hynny ond mae'r denantiaeth yna ar fin dod i ben."
Mae'r dafarn, meddai, yn "ganolfan mewn gwirionedd i'r rhan yma o Ddyffryn Aeron - rhan isa'r dyffryn lle mae'n gwasanaethu nifer o bentrefi cyfagos".
"Dan ni'n sôn am Felinfach ac Ystrad Aeron a hefyd pentrefi Tal-sarn, Cilcennin, Ciliau Aeron, Dihewyd, Cribin... mae e'n rhyw fath o ganolfan gymunedol answyddogol eisoes, fydden i'n dweud."
Mae gwraig Mr Thomas, Janice, hefyd yn aelod o'r pwyllgor ymgyrchu.
"'Dan ni gyd ar wahanol amseroedd wedi cael cyfnodau difyr iawn yn y Vale," meddai.
Ar un adeg roedd yna 11 o dafarndai ym mhentrefi Ystrad Aeron, Felinfach a Temple Bar yn unig - tri phentref sydd o fewn tair milltir i'w gilydd - ond erbyn hyn "dyma'r unig dafarn sydd ar ôl".
Ysbrydoliaeth 'esiamplau gwych'
Cafodd yr ymgyrchwyr eu hysbrydoli gan lwyddiant ymdrechion eraill i brynu tafarndai ar gyfer y gymuned leol, gan gynnwys Ty'n Llan yn Llandwrog, ger Caernarfon.
"'Dan ni wedi gweld esiamplau gwych o hyn yn cael ei wneud mewn llefydd eraill yng Nghymru ac yn meddwl falle bod hi'n bryd i ni hefyd drio cymryd yr awenau a chymryd dyfodol y dafarn, y ganolfan ma', i ddwylo'r gymuned," medd Mr Thomas.
Maen nhw eisoes wedi cael sgwrs gydag aelod o'r fenter a brynodd tafarn hanesyddol Sinc ger Maenclochog yng ngogledd Sir Benfro yn 2017.
Mae Mr Thomas yn cydnabod y bydd codi'r arian yn her, yn enwedig mewn cyfnod pan fo cyfyngiadau coronafeirws yn ei gwneud hi'n amhosib cynnal cyfarfodydd cyhoeddus.
Ond yn dilyn cyfarfod cychwynnol nos Fercher, mae'n hyderus bod yna ddigon o ddiddordeb yn y syniad.
"O'dd 'na lot o syniadau gwych iawn... o lyfrgell i sinema i bob math o bethe eraill," meddai.
"Mae 'na berthynas amlwg gyda Theatr Felinfach... a 'dan ni'n dymuno gweld falle ryw fath o bartneriaeth gyda'r theatr."
'Awydd a stumog' i fynd amdani
Ychwanegodd: "Y'n ni'n teimlo bod yr awydd 'na, bod y stumog nawr gan bobl i fynd ati.
"Ni wedi'n hysgogi gan lefydd fel Ty'n Llan... y'n ni'n gweld pobl o Awstralia a Canada wedi buddsoddi yn y llefydd yma ac felly pam lai bwrw ati."
Bydd sesiwn galw mewn yn cael ei threfnu o fewn yr wythnosau nesaf i drafod y cynllun.
"Ry'n ni wrthi nawr yn paratoi dogfennau cynnig cyfranddaliadau, gyda'r bwriad o lansio'r ymgyrch yn yr hydref," meddai Mr Thomas.
"Mae hefyd yn fwriad i gynnig am grantiau sy'n cefnogi mentrau cymunedol fel hyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2017