Stryd y Castell Caerdydd yn ailagor i gerbydau preifat

  • Cyhoeddwyd
Stryd y CastellFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y ffordd ailagor i fysiau a thacsis ym mis Tachwedd 2020, ond mae bellach wedi ailagor yn llawn

Mae un o'r prif ffyrdd trwy ganol Caerdydd wedi ailagor i gerbydau preifat am y tro cyntaf ers haf 2020.

Fe wnaeth Stryd y Castell droi'n ardal fwyta awyr agored yn ystod haf y llynedd, cyn ailagor i fysiau a thacsis ym mis Tachwedd y flwyddyn honno.

Cyhoeddodd Cyngor Caerdydd yn gynharach eleni y byddai'r ffordd yn ailagor yn llawn, gan ddweud bod llygredd aer wedi symud o ganol y ddinas i ardaloedd preswyl.

Ond mae Stryd Westgate gerllaw yn parhau ar gau i gerbydau preifat.

Bydd giât bysiau yn cael ei roi mewn lle, gan olygu mai bysys, tacsis, cerddwyr a seiclwyr yn unig fydd yn cael teithio ar y ffordd.

Yr unig eithriad fydd trigolion sy'n byw ar y stryd.

Stryd y Castell yn haf 2020
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y stryd ei throi'r ardal fwyta awyr agored yn ystod haf y llynedd tra bod cyfyngiadau'n atal ymgynnull dan do

Daeth cynllun tebyg yng Ngheredigion - ble roedd ffyrdd ar gau yn Aberystwyth, Aberaeron, Cei Newydd ac Aberteifi - i ben fis diwethaf.

Mae Cyngor Caerdydd yn rhagweld y bydd lefelau nitrogen deuocsid, sy'n llygru'r aer, yn cynyddu 40% ar Stryd y Castell unwaith y bydd yn ailagor yn llawn.

Fe wnaeth ymgynghoriad, a gafodd 6,277 o ymatebion, ganfod bod 54% o'r ymatebwyr eisiau i'r ffordd ailagor i gerbydau preifat, tra mai 34% oedd ddim eisiau i hynny ddigwydd.