Penderfyniad 'siomedig' i ailagor Stryd Y Castell
- Cyhoeddwyd
Bydd stryd yng Nghaerdydd yn ailagor i geir preifat yn yr hydref er gwaethaf amheuon am y dystiolaeth sy'n cael ei defnyddio i gyfiawnhau'r penderfyniad dadleuol ar Ddiwrnod Aer Glân.
Cyhoeddodd Cyngor Caerdydd ddydd Iau 17 Mehefin y bydd Stryd y Castell yn cael ei hailagor i geir preifat am gyfnod dros dro ar ôl blwyddyn o fod wedi cau.
Mae'r cyngor yn honni y byddai ailagor y lôn yn lleihau'r galw am ddefnyddio ceir preifat, ond y gwrthddadl yw y byddai mewn gwirionedd yn cynyddu'r galw.
Dywedodd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, bod cau y lôn wedi dadleoli llygredd traffig ac aer i ardaloedd preswyl fel Trelluest, Tre-biwt, a Glan-yr-Afon: "Yn y mwyafrif o'r gorsafoedd modelu hynny, mae safon yr aer yn gwaethygu," meddai.
Yn ôl y cynlluniau cyfredol, bydd dwy lôn ar Stryd Y Castell ar agor i holl draffig y dref yn yr hydref o'i gymharu â phedair yn flaenorol. Bydd lonydd bysiau a beiciau yn aros yn eu lle.
Yn wreiddiol roedd £300,000 o gyllid Aer Glân Llywodraeth Cymru am dalu am y gwaith, ond mae'r cyngor nawr am dalu am y gwaith ei hun.
'Siomedig'
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, y byddai'n "siomedig" gweld ceir yn ôl ar ffordd allweddol yng nghanol Caerdydd.
"Maen nhw [y cyngor] o'r farn bod effaith dadleoli ar hyn o bryd trwy symud traffig i ardaloedd preswyl eraill sy'n achosi ansawdd aer gwael yno. Eu cyfrifoldeb nhw yw llunio'r farn am sut maen nhw'n trefnu eu strydoedd eu hunain.
"Rwy'n siomedig i weld ceir yn dod yn ôl i ganol y ddinas. Dw i wedi siarad efo nhw amdano, ac maen nhw'n mynd i roi cynnig ar ddull gwahanol - gadewch i ni weld sut mae hynny'n mynd."
Mae'r cyngor yn dadlau y byddai'r cynllun yn lleihau'r galw am y defnydd o geir preifat, ond mae hynny o'i gymharu â chyn y pandemig a chau'r lôn.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Wong: "Nid ydych yn lleihau'r defnydd o geir yn y tymor hir trwy adeiladu ffyrdd newydd neu ailagor ffyrdd. Nid ydych yn lleihau'r galw trwy ailagor ffyrdd."
Rhoddodd ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd ei gynnal dros y gwanwyn ddau opsiwn: opsiwn un oedd i ailagor y ffordd i geir preifat, ac opsiwn dau oedd i gadw'r trefniant presennol i ond fod ar agor i fysiau a thacsis. Fe wnaeth 58.8% ddewis opsiwn un, a 33.8% opsiwn dau.
Dywedodd Jason Bale, rheolwr rhaglen y cyngor ar gyfer Aer Glân: "Mae opsiwn un yn ceisio lleihau'r galw. Rydym yn tynnu bron i 50% o'r capasiti ar gyfer traffig allan ohono, o'i gymharu â cyn-Covid.
"O ran ansawdd aer ar Stryd Y Castell gyda'r opsiwn hwnnw, mae'n welliant o hyd at 32% o grynodiadau nitrogen deuocsid cyn-Covid."
Mater arall yw sut mae cau'r lôn wedi dadleoli traffig a llygredd aer i strydoedd preswyl cyfagos wrth i yrwyr gael eu dargyfeirio o'u llwybr arferol i fynd o un ochr o'r ddinas i'r llall. Ond nid yw data o orsafoedd monitro llygredd aer yn ategu'r honiad bod ardaloedd preswyl wedi cael eu heffeithio.
Dywedodd y Cynghorydd Owen Jones: "Rwy'n sylwi nad oes unrhyw stryd yn dangos lefelau uwch o nitrogen deuocsid na chyn y pandemig. Felly nid oes yr un stryd, yn ôl ei golwg, yn waeth nawr gyda Stryd Y Castell wedi'i chau yn llawn.
"Y cyfiawnhad dros orfod ailagor Stryd Y Castell yw oherwydd bod traffig wedi cael ei ddargyfeirio i ardaloedd preswyl. O'r dystiolaeth a ddarparwyd heddiw, ni allaf weld unrhyw dystiolaeth bod traffig yn cael ei ddargyfeirio yn waeth nag o'r blaen i ardaloedd preswyl."
Dywedodd penaethiaid y cyngor fod y data mewn gwirionedd yn dangos bod ardaloedd preswyl cyfagos wedi gweld gwelliannau diweddar yn ansawdd yr aer oherwydd y cyfnod clo a llai o bobl yn gyrru yn gyffredinol.
Mae'r ddadl yn hytrach yn dibynnu ar fodelu trafnidiaeth ansicr, sy'n tybio sut y bydd pobl yn gyrru yn y dyfodol. Mae'r modelu yn dangos y gallai ffyrdd cyfagos weld llai o lygredd aer wrth ailagor.
Dywedodd Andrew Gregory, cyfarwyddwr cynllunio trafnidiaeth ac amgylchedd y cyngor: "Dim ond wrth ddadansoddi y byddwn yn deall goblygiadau llawn y ffactorau ansawdd aer sydd ar waith ledled y ddinas.
"Rydyn ni'n ceisio gweld hyn fel rhan o gynllun tymor hir i symud i senario llawer gwell i'r ddinas gyfan, ond hefyd rhai o'r cymunedau allweddol sy'n ffinio â chanol y ddinas, a chanol y ddinas ei hun hefyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2020