Y Bencampwriaeth: Abertawe 3-0 Peterborough

  • Cyhoeddwyd
Jake Bidwell yn dathlu ar ôl sgorioFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Jake Bidwell sgoriodd ail gôl y gêm 13 munud mewn i'r hanner cyntaf

Dominyddodd Abertawe y gêm yn erbyn Peterborough ddydd Sadwrn, yn ennill 3-0 yn Stadiwm Liberty.

Cawson nhw ddechreuad cryf yn yr hanner cyntaf, ac o fewn 13 munud roedden nhw wedi sgorio dwy gôl yn barod.

Jake Bidwell sgoriodd y gôl gyntaf ond dau funud mewn i'r gêm, ac 11 munud yn ddiweddarach dilynodd Joel Piroe gyda'r ail sgôr.

Gorffennwyd yr hanner cyntaf gydag Olivier Nitcham yn sgorio trydydd gôl y gêm i Abertawe, ond roedd yr ail hanner yn ddi-sgor.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe'n symud i fyny i 13eg safle yn y Bencampwriaeth, ac maen nhw bellach ond dau bwynt tu fas safleoedd y gemau ail gyfle.