Y Bencampwriaeth: Stoke 3-3 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Gêm gyfartal oedd hi i Gaerdydd yn erbyn Stoke ddydd Sadwrn, wrth iddyn nhw gychwyn eu bywyd newydd heb eu cyn-reolwr Mick McCarthy.
Er i Stoke sgorio'r ddwy gôl gyntaf, sgoriodd Rubin Colwill, Mark Harris a Kieffer Moore tair gôl mewn chwe munud i Gaerdydd mewn gêm gyffrous.
Sgoriodd Stoke eto yn yr ail hanner, gyda'r ddau dîm yn cystadlu i drio mynd ar y blaen.
Sgôr gyfartal oedd hi yn y diwedd, yn rhoi un pwynt i Gaerdydd o dan reolaeth eu rheolwr newydd dros dro Steve Morison.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2021